Rhybudd gorfodi i waith dur

  • Cyhoeddwyd
Gail Sydenham yn dangos y llwch a fu ar ei charFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,
Gail Sydenham yn dangos y llwch a fu ar ei char

Mae gwaith dur Tata wedi derbyn rhybudd gorfodi i atal llygredd ar ôl i lwch du ddisgyn ar gartrefi cyfagos.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod hyn yn golygu bod rhaid i Tata Steel gynnal adolygiad ar sut i atal llygredd o safle Port Talbot.

Wrth i'r tymheredd esgyn yn gynharach y mis hwn mae trigolion yn honni nad oedd gronynnau yn diflannu ond yn hytrach yn ymgasglu ar gartrefi.

Dywedodd Tata Steel bythefnos yn ôl ei fod yn cymryd camau.

Adolygiad

Ar 18 Gorffennaf, dywedodd CNC ei fod wedi derbyn nifer o adroddiadau yn ystod y tywydd cynnes diweddar gan breswylwyr yn poeni am lygredd o'r safle.

Ar y pryd, dywedodd ei fod wedi cytuno ar gynllun gweithredu gyda Tata Steel gan ddisgwyl i'r cwmni i wneud gwelliannau.

Ffynhonnell y llun, Peter Davies
Disgrifiad o’r llun,
Mae trigolion wedi honni nad oedd gronynnau yn diflannu, ond yn hytrach yn ymgasglu ar gartrefi

Ond mewn datganiad newydd ddydd Mawrth, dywedodd CNC eu bod yn awr wedi cymryd camau gorfodi ar Tata Steel i gynnal adolygiad pellach i'r problemau llwch ym mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Mae swyddogion CNC hefyd wedi gofyn i'r cwmni i ddod o hyd i atebion tymor hir i leihau llwch o'r safle sy'n cynnwys lleihau tymheredd y broses gynhyrchu.

Cymryd Camau

Yn ôl Mary Youell o CNC: "Mae Tata Steel eisoes wedi cymryd camau ar unwaith i leihau'r llwch sy'n dod oddi ar eu safle ac wedi gweithio gyda ni ar yr ymchwiliad hwn.

"Rydym yn falch gyda'u hymateb hyd yn hyn, ond yr ydym am gael ateb tymor hir i'r materion hyn sydd wedi bod yn llawer gwaeth oherwydd y tywydd poeth sych".

Mewn cyfarfod rhwng CNC, Tata Steel a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, amlinellodd y cwmni gamau gweithredu y mae'n yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem llwch a mynd i'r afael â'r hysbysiad gorfodi.

Dywedodd Dr Sarah Jones, ymgynghorydd diogelu iechyd amgylcheddol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, er y gallai anadlu llwch gael effaith andwyol ar iechyd pobl, i'r rhan fwyaf o bobl mae'n annhebygol y bydd y mater hwn yn achosi unrhyw broblemau.

"Fodd bynnag, gall dod i gysylltiad â lefelau uchel beri i gyflyrau presennol ar yr ysgyfaint a'r galon waethygu a gall fod yn beryglus i blant a phobl oedrannus," ychwanegodd.

Gwnaed cais i Tata Steel wneud sylw.