Cyhoeddi enillwyr y gwobrau celf

  • Cyhoeddwyd
TyFfynhonnell y llun, james morris
Disgrifiad o’r llun,
Gwaith Penseiri John Pardey yw'r tŷ yma yn Sir Benfro

Mae enwau rhai o enillwyr cyntaf Eisteddfod Sir Ddinbych wedi eu cyhoeddi, a'r rheini ym maes celf.

Penseiri John Pardey yw enillwyr y Fedal Aur am Bensaernïaeth ac mae merched wedi dod i'r brig mewn tair cystadleuaeth.

Mae'r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn mynd i Josephine Sowden, y Fedal Aur am Grefft a Dylunio i Theresa Nguyen o Birmingham a Becca Voelcker o Garndolbenmaen sy'n derbyn yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc.

Dywedodd Ms Voelcker ei bod hi'n falch o allu "cynnig rhywbeth yn ôl i Gymru".

Tŷ 'gogoneddus'

Adeilad yn Sir Benfro gafodd ei ddylunio gan Penseiri John Pardey sy'n ennill y wobr am bensaernïaeth.

Tŷ pum stafell yw Trewarren, sydd wedi ei adeiladu ar ochr ogleddol moryd Nanhyfer.

Mae gan y tŷ strwythur carreg sy'n wynebu'r gogledd ble mae'r ystafelloedd llety, tra bod y gofodau byw mewn strwythur coed i'r de.

Roedd yna unfrydedd mai Trewarren oedd yn haeddu'r fedal a dywedodd y detholwyr: "Dewiswyd y tŷ hwn ar gyfer Y Fedal Aur am ei eglurder o ran cysyniad, ei gyflawniad gogoneddus a'r berthynas ofalus rhwng safle a gosodiad."

"Er yn perthyn i'w gyfnod, mae'n rhan o bensaernïaeth Gymreig frodorol draddodiadol ac mae'n cyfleu awyrgylch lle arbennig."

Disgrifiad o’r llun,
Mae gwaith Josephine Sowden wedi denu llawer o ganmoliaeth

Lili'r Maes

Gwneuthurwraig ffilmiau o Wlad yr Haf, Josephine Sowden sy'n mynd â'r wobr am gelfyddyd gain, am fideo perfformiadol o'r enw Lili'r Maes.

Mae Ms Sowden ar ben ei digon gyda'r wobr, yn enwedig gan ystyried mai hwn oedd y tro cyntaf iddi gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Mae Lili'r Maes, yn waith meddylgar dwfn sy'n dangos gweledigaeth unigryw, soffistigeiddrwydd mawr yn ei ddull a gallu technegol yn ei gyflawniad," meddai Amanda Farr ar ran y detholwyr.

"Mae'r ffilm yn gyfareddol i edrych a gwrando arni - yn afaelgar ac yn gofiadwy ar unwaith. Eistedd yn fud a wnaethom ni pan welsom y gwaith am y tro cyntaf a dim ond cynyddu wnaeth ein hedmygedd wrth ail-edrych dro ar ôl tro. Mae'r gwaith yn harddwych, ysgytwol a syfrdanol."

'Diolchgar i bobl Cymru'

Disgrifiad o’r llun,
Mae Theresa Nguyen yn arbenigo mewn gwaith metel

Theresa Nguyen ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth crefft a dylunio.

"Dengys gwaith Theresa feistrolaeth ar nid dim ond y gallu i weithio un darn hardd wedi ei wneud a'i fanylu'n gywrain o fetel," meddai Fennah Podschies, un o'r detholwyr, "ond y gallu i ailadrodd y ddawn gyda medr a manylder perffaith, sydd wedi bod yn nodwedd o waith gofaint arian gwych erioed."

"Bydd fy nheulu a finnau wastad yn ddiolchgar i bobl Cymru am roi lloches i ni a chynnig cyfle i ni greu bywydau newydd yng Nghymru," meddai Ms Nguyen.

"Mi ddangoswyd y fath gariad a chroeso i ni gan y Cymry. Dwi mor falch i mi gael fy ngeni yma - rhoddwyd fy enw Theresa i mi yn deyrnged i'r fydwraig a gynorthwyodd gyda fy ngenedigaeth."

Addewid

Mae enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc Becca Voelcker wrthi'n gwneud MPhil mewn Cyfryngau Sgrîn a Diwylliant yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt.

Yr ymgeisydd sy'n dangos y mwyaf o addewid artistig sy'n derbyn y wobr - bydd Becca'n derbyn gwobr ariannol fydd yn eu galluogi i ddilyn cwrs celf mewn ysgol neu goleg celf adnabyddus.

"Mae ennill gwobr yn y Genedlaethol yn brofiad cyffrous dros ben. Dwi wastad yn mwynhau ymweld â'r Lle Celf, a dwi'n edrych ymlaen yn arw i gael fod yna eleni a chymryd rhan," meddai Ms Voelcker.

"Mae'n ofnadwy o bwysig i mi oherwydd dwi'n cynnig rhywbeth yn ôl i Gymru wrth ei defnyddio fel ysbrydoliaeth a man cychwyn… neu ddychwelyd."

Dywedodd Becca ei bod yn bwriadu dilyn cwrs celf yn Tokyo.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol