Signal digidol yn cyrraedd Blaenau'r Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Radio digidol
Disgrifiad o’r llun,
Bydd bron i chwarter mililwn o bobl yn ardal Blaenau'r Cymoedd yn derbyn radio digidol

Mae'r gallu i dderbyn radio digidol wedi ei ymestyn i bron i chwarter miliwn o bobl yn ardal Blaenau'r Cymoedd.

Fe fydd pedwar trosglwyddydd radio newydd yn gwasanaethu Merthyr Tudful, Y Fenni, Aberdâr a Glyn Ebwy.

Fe fydd gwrandawyr yn gallu gwrando ar Radio Cymru, Radio Wales a rhai gorsafoedd masnachol ar radio digidol - DAB.

Mae'r trosglwyddyddion yn rhan o gynllun ehangach gan Digital Radio UK i sicrhau bod 400,000 yn fwy o gartrefi yn derbyn radio digidol yng Nghymru erbyn diwedd yr haf.

Mae disgwyl i drosglwyddyddion newydd yn sir Benfro a sir Gaerfyrddin sicrhau bod 150,000 yn fwy o gartrefi yn derbyn y gwasanaeth, ac y bydd tua 150,000 o gartrefi yn y gogledd orllewin yn derbyn y gwasanaeth yn 2014.

Hefyd gan y BBC