Cefnogaeth i gynllun gwella amgueddfa a llyfrgell yn Aberhonddu
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i weddnewid amgueddfa ac oriel gelf yn Aberhonddu wedi derbyn bron i £2.5 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Methiant fu cais tebyg am arian oddi wrth y loteri bedair blynedd yn ôl.
Mae Amgueddfa Brycheiniog yn adeilad rhestredig Gradd II o oes Fictoria.
Cyngor sir Powys sy'n berchen ar y safle ac mae angen gwaith cynnal a chadw ar y to a'r waliau cerrig.
Dywed y sir bydd y cynllun ehangach, gan gynnwys llyfrgell newydd, yn costio £8.4 miliwn.
Casgliadau hanesyddol
Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Ymddiriedolwraig a Chadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Dr Manon Williams, "Dyma grant sylweddol sydd wedi'i ddyfarnu i brosiect cyffrous ac rydym yn hynod falch bod Bwrdd Cenedlaethol Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cydnabod ei botensial.
"Ynghyd â bod yn gartref i gasgliadau hanesyddol arwyddocaol, mae adeilad Amgueddfa Brycheiniog ei hun yn strwythur pensaernïol gwerthfawr fydd nawr yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol."
Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol yn 1842 fel Neuadd Sirol Brycheiniog ac mae hefyd wedi bod yn gartref i lys sirol.
Dywedodd y Cynghorydd Graham Brown, Aelod Cabinet dros Gelfyddydau a Diwylliant Cyngor Sir Powys, fod Amgueddfa Brycheiniog wedi chwarae rhan yn hanes y dref ers bron i 200 mlynedd "a gobeithio bydd ein cynlluniau'n sicrhau ei fod yn parhau i chwarae rhan allweddol am flynyddoedd i ddod.
Gweithiau Modern
"Bydd yr adferiad yn helpu adfywiad yr ardal ac yn rhoi hwb ariannol i'r economi lleol."
Sefydlwyd yr amgueddfa wreiddiol yn 1928 gan Syr John Conway Lloyd, hanesydd lleol a sefydlodd Cymdeithas Brycheiniog.
Hwn yw'r amgueddfa fwyaf yn yr ardal ac mae'n cynnwys casgliadau arwyddocaol lleol a rhanbarthol.
Mae'r casgliad celfyddyd gain gydag arwyddocâd rhanbarthol a chenedlaethol, yn enwedig gweithiau modern sy'n gysylltiedig â'r tirwedd leol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013