£1m i ddiogelu tirlun Gŵyr
- Cyhoeddwyd

Mae grant o dros £1 miliwn yn cael ei roi i helpu diogelu tirlun Penrhyn Gŵyr.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri yn cyfrannu £1.3 miliwn tuag at brosiect 'Achub y Gŵyr', sy'n ceisio hybu cadwraeth ac agor tir i ymwelwyr.
Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf ym Mhrydain i gael ei ddynodi yn Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol, a bydd yr arian yma yn ceisio agor mwy o dir i ymwelwyr, gwella waliau ar hyd yr arfordir a sicrhau bod treftadaeth ddiwydiannol yn cael ei gadw.
Treftadaeth naturiol
Dywedodd cadeirydd pwyllgor y Gronfa yng Nghymru, Manon Williams, bod yr arian yn bwysig i'r ardal:
"Mae sicrhau bod ein treftadaeth naturiol yn cael ei ofalu amdano'r un mor bwysig a sicrhau ein hanes adeiladol," meddai.
"Fel yr Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol cyntaf, sy'n atyniad i dwristiaid yn ei hun, mae'n hanfodol bod tirlun Penrhyn Gŵyr yn cael ei warchod."
"Rydym ni'n falch iawn i gael gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol yn yr achos yma."
Cadwraeth
Mae'r arian wedi dod o gynllun Landscape Partnership, sy'n rhoi cymorth ariannol i helpu cadwraeth mewn ardaloedd gyda "thirlun a chymeriad nodedig."
Ar Benrhyn Gŵyr mae nifer o safleoedd hanesyddol sy'n dyddio o'r oes cynhanesyddol i'r oes ddiwydiannol.
Mae'r safleoedd yn cynnwys ogofau palaeolithig, safle angladdol o'r oes efydd a chaerau o'r oes haearn.
Wrth weithio gyda thrigolion lleol, bydd y cynllun yn ceisio diogelu'r safleoedd hyn, i'w hamddiffyn at y dyfodol.
Y bwriad yw annog cymunedau, ysgolion a phrifysgolion i gymryd rhan yn y gwaith cadwraethol, ac i ddysgu mwy am dirlun a hanes eu hardaloedd.
Straeon perthnasol
- 1 Awst 2011