Gwerthu bagiau i helpu merched Ethiopia
- Cyhoeddwyd

Ddim yn aml y gallwch chi brynu bag am 50c y dyddiau yma - ond fe fydd yna fargeinion i'w cael ar stondin Cymorth Cristnogol ar Faes yr Eisteddfod eleni, a hynny fel rhan o'u hymgyrch i godi arian ar gyfer merched yn Ethiopia.
Syniad Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr, oedd casglu'r bagiau.
Bob dwy flynedd mae'r mudiad yn dewis Llywydd newydd a'r person hwnnw yn penderfynu pa elusen i gefnogi. Cymorth Cristnogol oedd dewis Gill Griffiths, y Llywydd presennol.
Tra bod bras ac esgidiau wedi eu casglu yn y gorffennol bagiau oedd y dewis y tro yma.
"O'n i wedi meddwl yn gyntaf am y syniad o handbags, rhywbeth fyddech chi yn gwisgo o bosib i briodas," meddai. "Ond ni wedi cael ymateb eithaf syfrdanol - o fod yn gesys mawr i fagiau nos, i fagiau dala pethe ymolchi, i'r bagiau smart a swanc iawn a rhai o'r enwau mawr fel Mulberry a David Jones," meddai Tegwen Morris.
14,000
Ers cychwyn yr ymgyrch ym mis Medi, maen nhw wedi derbyn bron i 14,000 o fagiau a rheiny yn dod o bob man yng Nghymru.
Mi fydd y rhain yn cael eu gwerthu yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gyda Sioe Ffasiwn ar ddydd Llun yn arddangos 130 o amrywiaeth o fagiau, yn rhai hen a rhai newydd.
Cafodd rhai eu gwerthu yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd a chodwyd dros £1,500 yr wythnos honno.
Wrth chwilota trwy'r bagiau sydd yn ei chyrraedd, mae Tegwen Morris wedi dod o hyd i bob math o bethau.
Meddai: "Ni wedi ffeindio dannedd gosod, ni wedi ffeindio lot o golur yn y bagiau 'ma. Digwydd bod, mi ddaeth bag i'r sioe ar y dydd Iau olaf a thra o'n i yn chwilota trwyddo mi oedd yna amlen gydag arian yn y bag."
Mi lwyddodd i roi'r arian yn ôl i'r perchennog, "ac yn garedig iawn i'r person hynny maen nhw wedi rhoi rhodd o £50 i'r casgliad."
Enwogion
Nid dim ond y cyhoedd sydd wedi bod yn rhoi eu bagiau ond hefyd rhai o enwogion Cymru, gan gynnwys Connie Fisher, Nia Roberts a Matthew Rhys.
Bydd y rhain yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn a fydd yn para tan fis Ebrill.
Mi fydd yr arian fydd yn cael ei gasglu yn mynd at brosiectau i helpu merched yn Ethiopia. Fe aeth Gill Griffiths yno gyda Branwen Nicolas o Gymorth Cristnogol ac, yn ôl Llinos Roberts, sydd hefyd yn gweithio gyda Chymorth Cristnogol, bydd y pres yn gwneud gwahaniaeth.
Dywedodd: "Beth sydd yn anodd yn Ethiopia ydy bod merched yn gweithio hyd at 16 awr y dydd ac wedyn dydyn nhw ddim yn cael cyfle i eistedd lawr efo'i ffrindiau a thrafod rhywbeth sydd ar ei meddwl adra.
"Mae 'na brosiectau sydd yn cynnig hynny i ferched yn Ethiopia ac mae hynny wedyn yn grymuso'r merched. Fel y prif weithlu mewn gwlad fel Ethiopia, mae grymuso merched wedyn yn adlewyrchu ar y teulu i gyd."