Canolfan i nofwyr elitaidd yn Abertawe dan fygythiad

  • Cyhoeddwyd
NofwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae sêr y gamp fel Georgia Davies, Jemma Lowe a Jazz Carlin yn ymarfer yn y ganolfan yn Abertawe

Mae dyfodol canolfan lle mae nofwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn hyfforddi yn ansicr yn dilyn toriadau i gyllid y gamp ym Mhrydain.

Mae'r toriadau yn golygu nad yw'r Pwll Nofio Cenedlaethol yn Abertawe yn sicr o gael buddsoddiad wedi 2013.

Dyma'r unig ganolfan hyfforddiant dwys sydd yn bodoli yng Nghymru ac mae'n un o bedair canolfan o'r fath ar draws Prydain.

Mae British Swimming yn dweud nad oes yna benderfyniad wedi ei wneud eto ynghylch Abertawe.

Ond maent yn barod wedi dweud na fyddant yn buddsoddi yn y ganolfan hyfforddi ddwys yn Stockport a hynny am eu bod yn ceisio gwneud arbedion o ryw £4 miliwn.

Mae trafodaethau yn digwydd rhwng British Swimming a Swim Wales ar hyn o bryd.

Doedd neb o Swim Wales ar gael i rhoi sylw.

Deëllir na fydd paratoadau ar gyfer y Gemau'r Gymanwlad yn 2014 yn effeithio ar y nofwyr sydd yn hyfforddi yn y pwll yn Abertawe.

Mae'r nofwyr Olympaidd Georgia Davies, Jemma Lowe a Jazz Carlin yn ymarfer yno. Ond fe benderfynodd y nofwraig Paralympaidd Ellie Simmonds ym mis Gorffennaf i symud i Loughborough.