Dyn ar goll: heddlu yn apelio am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ynglyn a lleoliad dyn 33 oed.
Mae Christopher Holmes sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Christopher Miller wedi bod ar goll o ardal Yr Eglwys Newydd, Caerdydd ers Gorffennaf 24.
Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo jins glas, crys-t glas gyda merched mewn bicini ar y blaen a siaced coch a gwyn Nike.
Mae ganddo acen Birmingham gref ac mae yn 5 troedfedd 9 modfedd gyda gwallt melyn a barf.
Mae ganddo gysylltiadau yng Nghaerdydd, Llanbed a Wolverhampton.
Gofynnir i unrhyw un sydd yn gwybod lle mae Mr Holmes i gysylltu gyda Heddlu'r De trwy ffonio 1010 neu ei gorsaf heddlu agosaf.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol