Morgannwg allan o gystadleuaeth T20

  • Cyhoeddwyd
CricedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Morgannwg yn gadael y gystadleuaeth wedi buddugoliaeth gyfforddus i Sir Gaerloyw

Mae Morgannwg wedi disgyn allan o gystadleuaeth 20 pelawd FriendsLife, wedi iddyn nhw golli yn erbyn Sir Gaerloyw nos Fawrth.

Roedd Morgannwg wedi gosod targed o 141 o rediadau wrth fatio yn gyntaf yn Stadiwm Swalec, gan golli 5 wiced.

Ond llwyddodd Sir Gaerloyw i gyrraedd y targed yn rhwydd, gan gyrraedd 145 am 1 wiced, mewn 16.3 pelawd.

Sgoriodd Michael Klinger 86 o rediadau oddi ar 59 pêl i sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr o 9 wiced.