Cynnydd mewn gwerthiant tai i'r cwmni Peter Alan
- Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni gwerthu tai mwyaf yn Ne Cymru, Peter Alan wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn gwerthiant tai ers y dirwasgiad.
Yn ystod y chwe mis diwethaf mae'r cwmni yn dweud bod 10% o gynnydd wedi bod o'i gymharu gyda'r un amser y llynedd.
Mae'r cwmni'n eiddo i gymdeithas adeiladu Principality.
Adferiad
Yn ôl prif weithredwr y Principality, Graeme Yorston mae'r ffigyrau gan y gymdeithas yn arwydd bod yna "rywfaint o adferiad" yn yr economi ym Mhrydain:
"Mae prisiau tai yn dychwelyd i lefelau positif. Mae diweithdra yn well na'r disgwyl ac mae ffigyrau GDP yn cryfhau. Ond rydw i yn cydymdeimlo gyda'r safbwynt gan rhai sylwebyddion ynglŷn â chynnal yr adferiad economaidd."
"Mae'r cyfraddau llog isel ar hyn o bryd a chynlluniau'r llywodraeth... wedi bod yn hwb i ochr gyflenwi'r farchnad ac wedi cynyddu'r incwm sydd gan aeldwydydd i'w wario. Ond mae'n debygol y bydd hyn yn dod o dan bwysau yn y tymor hir."
Straeon perthnasol
- 12 Chwefror 2013
- 13 Mawrth 2012