Ambiwlansys: Methu targed eto

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd ymateb i 62.6% o alwadau categori A o fewn 8 munud - targed Llywodraeth Cymru yw 65%

Dydy'r gwasanaeth ambiwlans ddim wedi cyrraedd y nod a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd 65% o achosion brys ble roedd yna fygythiad uniongyrchol i fywyd o fewn 8 munud - a hynny am y 13eg mis o'r bron.

Ym mis Mehefin 2013, cyrhaeddodd 62.6% o ambiwlansys yr achosion yn y categori hwn (categori A) o fewn 8 munud - cynnydd o 0.1% ar ffigyrau Mai.

Cafodd 80% o'r galwadau yma ymateb o fewn 12 munud a 94% o fewn 20 munud.

Roedd llai o alwadau brys ble roedd bywyd mewn peryg yn ystod mis Mehefin - 5.7% yn is nac yn ystod mis Mai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol