Bannau: Cyhoeddi enw'r trydydd milwr fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi mai'r Corporal James Dunsby oedd y trydydd milwr fu farw ar ôl hyfforddiant SAS ym Mannau Brycheiniog.
Bu farw'r milwr 31 oed ddydd Mawrth wedi iddo lewygu yn ystod hyfforddiant ar Orffennaf 13.
Bu farw dau filwr arall, Craig Roberts, 24, ac Edward John Maher, 31 wrth i'r tymheredd gyrraedd 29.5C yn ystod yr ymarfer.
Roedd y Corporal James Dunsby yn aelod o'r fyddin wrth gefn.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu:
"Roedd gan James y brwdfrydedd mwyaf heintus dros fywyd.
"Fe oedd y gwr mwyaf cariadus a dibynadwy, heb son am y dyn mwyaf golygus na allai fod wedi bod yn fwy annwyl.
"Roedd James, ac fe fydd e'n parhau i fod, yn fab, brawd a gwr a garwyd yn fawr iawn.
"Gyda James yn ffrind, roeddech wedi'ch sicrhau o deyrngarwch, cryfder, ffyddlondeb, gwarchodaeth ac yn fwy na dim chwerthin.
"Roedd James yn caru'r fyddin, ac roedd yn credu'n angerddol yn ei ddyletswydd fel gwarchodwr y Frenhines a'r wlad a'r deyrnas."
Ymchwiliad
Ddydd Mawrth, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn:
"Gyda thristwch gallwn gadarnhau bod trydydd milwr wrth gefn a gafodd ei anafu yn ystod ymarferiad ar Fannau Brycheiniog wedi marw o'i anafiadau."
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i ddarganfod beth ddigwyddodd, ac mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cael ei rhybuddio y gallai wynebu ymchwiliad o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.
Cafodd y cwest i farwolaethau Craig Roberts ac Edward Maher ei ohirio.
Roedd y milwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant yn ardal Pen y Fan.
Roedd Mr Roberts, yn wreiddiol o Fae Penrhyn yng Nghonwy, wedi bod yn aelod o'r Fyddin Diriogaethol am tua phum mlynedd ac roedd wedi gwasanaethu yn Irac ac Afghanistan yn ôl adroddiadau.
Bu'n byw yn Llundain ac roedd ar fin dechrau swydd newydd yn swyddfa'r ysgrifennydd addysg.
Roedd y dynion ymysg chwech o filwyr gafodd eu hachub oddi ar y mynydd ar y diwrnod hwnnw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2013