Diswyddo staff wrth i ymchwiliad i elusen barhau
- Cyhoeddwyd

Mae elusen ailgylchu wnaeth dderbyn miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn dirwyn i ben, yn dilyn archwiliad yn cael ei gynnal gan reoleiddiwr.
Mewn datganiad, dywedodd Cylch, rhwydwaith o gymunedau ailgylchu yng Nghymru, bod yr adroddiad yn dangos nad oedd sefyllfa ariannol yr elusen yn galluogi iddo barhau, a byddai staff yn cael eu diswyddo.
Cafodd yr archwiliad ei lansio yn dilyn honiadau o wrthdaro buddiannau yn ymwneud a phrif weithredwr Cylch, Mal Williams, a'i rôl fel cadeirydd cwmni arall, Plastics Sorting Limited.
£3 miliwn
Mae Cylch, sydd a'i phencadlys yng Nghaerdydd yn rhwydwaith o gymunedau ailgylchu, sy'n rhoi "gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth" i 50 o gymdeithasau ailgylchu dros Gymru.
Mae Cylch wedi derbyn dros £3 miliwn o gyllid gan Llywodraeth Cymru ers 2001, ond mae'r cyfarwyddwyr wedi dweud na fydd yr elusen yn gwneud cais am fwy o arian.
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw gan fod y Comisiwn Elusennau wedi dechrau ymchwiliad newydd i fewn i'r elusen, ond dywedodd llefarydd eu bod yn "ymwybodol" o'r sefyllfa.
Yn y datganiad, dywedodd Cylch bod "nifer o gwynion" wedi eu gwneud ynglŷn â'r elusen i'r llywodraeth a'r Comisiwn Elusennau'r llynedd.
Roedd y cwynion yn ymwneud â'r prif weithredwr Mal Williams, a phryder am wrthdaro buddiannau gyda chwmni arall yr oedd yn gadeirydd arno.
Mae Cylch wedi pwysleisio nad oedd y cwynion yn ymwneud â gweithred droseddol.
Archwiliad
Cafodd archwiliad ei agor gan Lywodraeth Cymru yn sgil y cwynion, ac mae'r adroddiad a ddaeth o'r ymchwiliad yn codi pryderon yn ôl yr elusen, yn cynnwys gallu Cylch i barhau.
Ers 2001, mae Cylch wedi derbyn dros £3.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r elusen wedi derbyn cyllid hyd at fis Medi 2013, ond ni fydd Cylch yn gwneud cais am fwy.
Mae hynny'n golygu y bydd pob un o weithwyr yr elusen yn colli eu swyddi.
Mae'r Comisiwn Elusennau nawr wedi agor ymchwiliad ei hun.
Dywedodd y Comisiwn bod ymchwiliad wedi ei hagor i Cylch oherwydd "pryderon am fethiannau difrifol yn rheolaeth yr elusen, gwrthdaro buddiannau a cholledion ariannol yn deillio o fenthyciadau a buddsoddiadau."
Dywedodd y prif weithredwr Mal Williams na fyddai Cylch yn gwneud unrhyw sylw nes bod yr ymchwiliad wedi dod i ben.