Steven Caulker yn arwyddo i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Steven CaulkerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Caulker yw'r pedwerydd chwaraewr i ymuno â Chardydd dros yr haf

Mae clwb pêl droed Caerdydd wedi arwyddo'r amddiffynnwr Steven Caulker o Tottenham Hotspur ar gytundeb pedair blynedd.

Deellir bod Caerdydd wedi talu dros £8 miliwn am y chwaraewr 21 oed.

Nid dyma'r tro cyntaf i Caulker chwarae yng Nghymru, wedi iddo dreulio tymor ar fenthyciad yn Abertawe yn 2011/12.

Chwaraeodd 26 o weithiau i'r Elyrch, ond mae wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at her newydd gyda'r Adar Gleision.

"Rydw i'n hynod falch i fod yma, ac yn edrych ymlaen at yr her newydd."

"Mae yna gyffro yma ac rydw i'n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o hynny."

Caulker yw'r pedwerydd chwaraewr newydd i ymuno â thîm Malky Mackay dros yr haf, ac mae Caerdydd yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda Toulouse am y chwaraewr canol cae, Etienne Capoue.

Mae'r £8 miliwn a dalodd Caerdydd yn record newydd i'r clwb, gan basio'r £7.5 miliwn dalwyd am Andreas Cornelius ddechrau Gorffennaf.

Yr amddiffynnwr John Brayford a'r gôl geidwad Simon Moore yw'r chwaraewyr eraill i symud i Gaerdydd dros yr haf.

Mae Caulker wedi chwarae unwaith dros Loegr, sgoriodd wrth i'r Saeson golli i Sweden mewn gem gyfeillgar.