Pallial: cyhuddo dyn o 32 trosedd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 71 oed a gafodd ei arestio yn rhan o ymgyrch Pallial wedi ei gyhuddo o 32 o droseddau rhyw.
Cafodd John Allen o Ipswich yn Suffolk ei arestio am yr ail dro ddydd Mercher, fel rhan o ymchwiliad i honiadau o droseddau rhyw mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
Roedd Mr Allen wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ond cafodd ei arestio a'i holi ymhellach ddydd Mercher.
Mae wedi ei gyhuddo o 32 o droseddau yn cynnwys 22 o ymosod yn anweddus.
Dywedodd Karen Mullin o Wasanaeth Erlyn y Goron fod y troseddau honedig yn ymwneud a 15 o blant, ac wedi digwydd rhwng 1968 a 1989.
Mae John Allen wedi ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Ynadon yn yr Wyddgrug ddydd Iau.
Mae tri dyn arall wedi eu harestio, a'u rhyddhau ar fechnïaeth fel rhan o'r ymchwiliad.
Mae ymchwilwyr yn siarad gyda 187 o bobl am honiadau o gamdrin yng ngogledd Cymru erbyn hyn.
Straeon perthnasol
- 31 Gorffennaf 2013
- 29 Ebrill 2013