Ceidwadwyr yn dewis Swinburne
- Cyhoeddwyd

Yr ASE Kay Swinburne sydd ar frig rhestr y Ceidwadwyr ar gyfer etholiadau'r Senedd Ewropeaidd fydd yn cael eu cynnal yn 2014.
Mae Ms Swinburne, a gafodd ei geni a'i magu yn Aberystwyth, wedi bod yn ASE ers 2009.
Yn ail ar y rhestr mae'r cynghorydd Aled Davies, gyda Dr Dan Boucher yn drydydd a Richard Hopkin yn bedwerydd.
Y rhai sy'n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop yw Kay Swinburne o'r Ceidwadwyr, Derek Vaughan o'r Blaid Lafur, Jill Evans o Plaid Cymru a John Bufton o UKIP sy' wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll eto.
"Mae hwn yn dîm eithriadol o gryf o ymgeiswyr o bob cornel o Gymru ac o nifer o wahanol gymunedau," meddai Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies.
"Mae gan bob un o'r ymgeiswyr lu o brofiad yn cynrychioli eu cymunedau ac mae ganddynt record gryf o weithredu dros Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2013
- Cyhoeddwyd24 Mai 2013