BBC Cymru Fyw

Band eang: Cymru 'ar ei hôl hi', yn ôl Ofcom

Published
image captionMae Cymru wedi bod ar ei hôl hi o ran signal ffonau symudol yn y gorffennol
Cymru sydd â'r gyfradd isaf o leoedd sydd â chysylltiad band eang cyflym yn y DU, yn ôl adroddiad gan Ofcom.
Dim ond 48% o adeiladau yng Nghymru sydd â chysylltiad cyflym, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 73%.
Cymru hefyd sydd â'r gyfran isaf o adeiladau sydd â signal ffonau symudol 2G.
Er hynny, mae bron i chwarter (23%) o gartrefi Cymreig yn defnyddio ffonau symudol yn unig o'i gymharu â 15% ledled y DU.
Yn eu hadroddiad, mae Ofcom yn dweud fod 73% o leoedd yn y DU yn derbyn signal sydd ar rwydwaith cyflym iawn.
Mae'r adroddiad yn dweud: "Ar draws gwledydd y DU, roedd y gyfran isaf yng Nghymru, sef 48%, a'r uchaf yng Ngogledd Iwerddon, 95%."
Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom Cymru, ei fod yn credu bod pethau eisoes yn gwella ac nad oedd yr adroddiad yn rhoi darlun llawn o'r sefyllfa.
Dywedodd: "Mae'r adroddiad hwn yn amlwg yn edrych yn ôl a does dim amheuaeth o gwbl fod Cymru wedi bod yn ceisio dal i fyny gyda mynediad at fand eang cyflym iawn, ac yn sicr ffonau symudol 3G - yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig, sydd â phoblogaeth ar wasgar, sydd heb fod yn derbyn gwasanaeth boddhaol.
"Ond, am y tro cyntaf erioed yn ôl pob tebyg, rydym bellach mewn sefyllfa i ddweud fod camau yn cael eu cymryd i gywiro hynny."
Dywedodd Mr Williams fod cynllun gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod 96% o boblogaeth Cymru'n cael cysylltiad cyflym â'r we erbyn 2016.
Ychwanegodd fod y cyfartaledd cyflymder yn y DU yn llawer uwch nag yng Nghymru oherwydd bod cyfran uwch o bobl yn byw mewn lleoliadau gwledig, a oedd yn ddrytach i'w cyflenwi.
Cyfeiriodd at Ogledd Iwerddon, ble mae llawer iawn o arian cyhoeddus wedi cael ei fuddsoddi i wella'r rhwydwaith.
Dywedodd Mr Williams hefyd fod rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru "ar flaen y ciw" mewn cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ddydd Mawrth i wella signalau ffonau symudol.

Straeon perthnasol

  • Arbrawf gwella signal ffôn mewn pentref yng Nghaerfyrddin

  • Y dyfodol digidol yng Nghaerdydd