Pallial: Dyn 72 oed wedi ei gadw'n y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 72 oed wedi ymddangos o flaen ynadon yn Yr Wyddgrug, wedi ei gyhuddo o 32 o droseddau honedig yn ymwneud â chamdrin plant yng ngogledd Cymru yn y gorffennol.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ymhen wythnos.
Mae John Allen, o Ipswich yn Suffolk, yn wynebu 32 o gyhuddiadau yn cynnwys 22 ymosodiad anweddus honedig rhwng 1968 a 1989.
Cafodd ei arestio am y tro cyntaf ym mis Ebrill, a'i ryddhau ar fechnïaeth cyn cael ei ail arestio ddydd Mercher.
Cafodd ei holi ymhellach gan dditectifs sy'n gweithio ar ymchwiliad Pallial - sy'n ystyried honiadau o gamdriniaeth mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru yn y gorffennol - cyn cael ei gyhuddo ddydd Mercher.
Cadarnhaodd swyddogion mai dyma oedd y cyhuddiadau cyntaf fel rhan o ymchwiliad Pallial.
Honnir fod y troseddau wedi digwydd rhwng 1968 a 1989 yn erbyn 15 o fechgyn a merched rhwng 7 a 15 oed.
Mae ymchwiliad Pallial yn cael ei arwain gan Keith Bristow, cyfarwyddwr cyffredinol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, corff sydd yn cymryd lle yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA).
Dywedodd fod ymchwilwyr bellach yn siarad â 187 o bobl am honiadau o gamdrin.
Mae Mr Allen yn un o bedwar dyn sydd wedi cael eu harestio.
Mae'r gweddill yn parhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2013