Dau wedi'u hanafu mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng bws mini a char ar Ynys Môn.
Roedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i'r safle ar ffordd y B5111 yn Rhosybol, ger Amlwch, am 7:30yh nos Fercher.
Bu'n rhaid i swyddogion tân dreulio tua awr yn torri un person yn rhydd o gerbyd.
Doedd y bws mini ddim yn cludo unrhyw deithwyr ar y pryd a chafodd y ddau o bobl oedd wedi'u hanafu eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Does ddim manylion ynglŷn â'u cyflwr hyd yma.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol