Dau o Gymru i Dŷ'r Arglwyddi

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol, Nick Bourne, yn cael ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi, yn ôl rhestr a gyhoeddwyd gan Downing Street heddiw.

Mae Mr Bourne, a gollodd ei sedd yn etholiad 2011, yn gadeirydd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd hefyd y bydd y cyn AC Christine Humphreys, sy'n llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, hefyd yn dod yn aelod o'r ail siambr yn San Steffan.

Mae cyfanswm o drideg o enwau ar y rhestr a gyhoeddwyd heddiw.