Bardd sy'n 'deilwng o'r archdderwyddiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Rhwng y Llinellau, Christine JamesFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r gyfrol yn cynnwys y cerddi a enillodd y Goron i Christine James yn 2013 ymhlith eraill

Mae bardd sydd newydd gyhoeddi casgliad cyntaf o farddoniaeth wedi disgrifio ei hun fel "lleidr lluniau".

Lleidr neu beidio, does dim amheuaeth, y bydd hon yn wythnos ryfeddol i Christine James - merch o deulu di-Gymraeg yn Nhonypandy a'r fenyw gyntaf erioed i fod yn Archdderwydd.

Mae Christine, sydd wedi cychwyn ei dyletswyddau yn seremoni'r Orsedd fore Llun yr Eisteddfod ac yn llywio'r Coroni ar lwyfan y pafiliwn yn y pnawn, hefyd yn cyhoeddi ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth.

Cyfrol hardd sy'n cynnwys y cerddi a enillodd gymaint o ganmoliaeth pan enillodd Christine y Goron yn Eisteddfod Eryri yn 2013.

Ond pwy fyddai wedi meddwl hyd yn oed yr adeg honno y byddai'r wraig swil, nad oedd y rhan fwyaf o Eisteddfodwyr cyffredin prin wedi clywed amdani cynt, yn Archdderwydd 10 mlynedd yn ddiweddarach?

Ar aelwyd ddi-Gymraeg yn Nhonypandy, Y Rhondda, y magwyd Christine a ddaeth yn ysgolhaig uchel ei pharch ac mae nawr yn Athro Cysylltiol yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.

Pan enillodd Goron Eryri datgelodd mai dim ond ychydig flynyddoedd ynghynt y dechreuodd farddoni a hynny i'w helpu i ddygymod â salwch cas.

"Fe gefais i salwch a chyfnod o wendid hir yn dilyn hynny ac yr oedd peidio â gallu gweithio yn sioc i'r system ac fe gychwynais i farddoni fel ffordd o ddod mâs - ac yr oedd yn rhyw fath o gatharsis i weithio fy ffordd drwy'r dryswch a'r gwendid," meddai ar y pryd.

Celf a phlentyndod

Cerddi a ddisgrifwyd fel rhai "ecffrastig" oedd rhai Eryri, hynny yw cerddi yn ymateb i beintiadau a gweithiau celf ac mae'r portread o La Parisienne Renoir ar glawr ei chyfrol gyntaf, Rhwng y Llinellau sydd newydd ei chyhoeddi gan Barddas, yn adlewyrchiad o hynny.

Mae'r gyfrol hardd yn cynnwys nid yn unig cerddi'r Goron ond hefyd gerddi eraill a gyhoeddwyd ers hynny gydag atgynhyrchiadau o'r peintiadau ochr yn ochr â nhw.

Ond mae cerddi hunangofiannol am blentyndod yng Nghwm Rhondda hefyd ac am salwch ym Massachusetts, cerddi taith i'r Cyfandir - ac i'r Oesoedd Canol - a cherddi achlysurol i gyfeillion a chydnabod.

Gall y cyfan swnio - ac, yn wir, edrych - yn uchel-ael iawn ond wedi ei choroni, prysurodd Christine i ddweud am ei gwaith: "Er bod yr ysgogiad i'r cerddi efallai yn uchel-ael fe wêl pobl, pan fyddan nhw yn eu darllen, mai profiadau cyffredin pobl gyffredin yw llawer iawn o'r profiadau yn y cerddi.

"Mae siom a gofid a gobaith ac anobaith - er efallai bod yr ysgogiad ei hun dipyn bach yn anghyffredin," meddai.

Ac wrth gyflwyno'r casgliad, geiriau fel "sylwgar", "ffres", "ysmala" a "hyfrydwch" a ddefnyddia'r Athro Derec Llwyd Morgan, un o feirniaid Coron Eryri, i ddisgrifio ei gwaith.

'Llun-ladrad'

Wrth sôn yn Y Cymro am y ffordd y mae'n ymateb i beintiadau a gweithiau celf, disgrifiodd Christine y broses fel hyn:

"Herwgipio'r gwaith y mae rhywun. Mae'n debyg y gellid ei alw'n lun-ladrad!"

Er o gartref Di-Gymraeg, gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg a enillodd Christine James ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyfarnwyd doethuriaeth iddi am waith ymchwil ar Gyfraith Hywel a hi fu'n gyfrifol am y golygiad safonol o holl farddoniaeth Gwenallt.

Bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn Taliesin rhwng 2000 a 2009, a chyn ennill Coron Eryri daeth yn agos iawn at gipio un Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004.

Ond yr wythnos hon ar ei harchdderwyddiaeth a'i chyfrol o farddoniaeth y bydd llygad pawb a chan gyfuno'r ddwy elfen yn ei bywyd, meddai Derec Llwyd Morgan: "Dyma gyfrol o farddoniaeth synhwyrus, ffraeth, gan fardd sy'n wir deilwng o'r archdderwyddiaeth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol