Jason Koumas yn dychwelyd i fyd pêl droed

  • Cyhoeddwyd
Jason KoumasFfynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,
Mae Koumas yn dychwelyd i'r clwb lle ddechreuodd ei yrfa.

Mae cyn chwaraewr ganol cae Cymru, Jason Koumas wedi arwyddo gyda chlwb Tranmere Rovers, wedi dwy flynedd allan o'r gêm broffesiynol.

Mae Koumas, sy'n 33 oed wedi bod heb glwb ers gadael Wigan yn 2011, ond yn ddiweddar mae wedi bod yn hyfforddi gyda Tranmere.

Dechreuodd Koumas ei yrfa ym Mharc Prenton gyda Tranmere, gan chwarae 150 o weithiau cyn ymuno a West Bromwich Albion yn 2002, am £2miliwn.

Symudodd eto yn 2007, pan aeth i Wigan am £5 miliwn.

Chwaraeodd 34 o weithiau dros Gymru yn ei yrfa, ond nid yw wedi chwarae yn broffesiynol ers cyfnod ar fenthyciad gyda Chaerdydd ym mis Mai 2011.

Bydd Koumas yn arwyddo'r cytundeb blwyddyn o hyd cyn belled bod yr awdurdodau yn ei gymeradwyo.

'Gallu dal yna'

Mae rheolwr Tranmere, Ronnie Moore yn credu y bydd Koumas yn ychwanegiad gwerthfawr i'r clwb.

"Pan mae'n holliach dwi'n credu y bydd gennym ni un o'r chwaraewyr gorau yn yr Adran Gyntaf.

"Mae'n un o'r chwaraewyr mwyaf talentog mae'r clwb erioed wedi ei gael.

"Roedd o wedi cael digon o'r gêm am gyfnod a dydi o heb chwarae ers 2 flynedd, ond daeth i mewn dechrau Gorffennaf a dywedodd ei fod o eisiau chwarae eto.

"Mae ei agwedd wedi bod yn berffaith ers dod yn ôl, ac mae'r gallu yn dal i fod yna."