Meddyg: 'Argyfwng' ar y gorwel

  • Cyhoeddwyd
Dr Phil White
Disgrifiad o’r llun,
Mae Dr White yn credu bod angen talu mwy i feddygon am weithio mewn ardaloedd gwledig

Gallai gofal eilaidd mewn ardaloedd gwledig "ddymchwel" ymhen blwyddyn yn ôl ysgrifennydd Pwyllgor Meddygon Teulu Gogledd Cymru.

Mae Dr Phil White, sydd hefyd yn feddyg teulu, yn dadlau bod diffyg doctoriaid yn rhoi iechyd cleifion yn y fantol yn y tymor hir.

Yn gynharach fe wnaeth aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr alw am sefydlu ysgol feddygol i hyfforddi doctoriaid yng Ngogledd Cymru.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o'r broblem ac yn cymryd camau i wella'r sefyllfa.

'Argyfwng o fewn 12 mis'

Yn ôl Dr White, sydd â meddygfa ger Pont Menai, mae "problem ddifrifol" mewn recriwtio meddygon teulu newydd mewn ardaloedd gwledig, ond mae'n pwysleisio bod hon yn broblem sy'n wynebu'r DU gyfan a nid Cymru'n unig:

"Ar hyn o bryd mae'r bwrdd iechyd yn gwneud eu gorau i ddarparu gwasanaethau lleol er mwyn cadw meddygfeydd yn agored," meddai Dr White.

"Rwy'n deall bod rhai ohonynt wedi gweld lleihad sylweddol yn nifer y partneriaid a'u bod wedi gorfod lleihau eu gwasanaethau i ddelio gydag argyfyngau yn unig, sy'n golygu bod y gwaith rheoli dydd-i-ddydd ddim yn cael ei wneud."

Pan ofynnwyd iddo a allai hyn roi iechyd cleifion yn y fantol, dywedodd Dr White: "Bydd yn gwneud hynny yn y tymor hir."

"Rydyn ni'n gweld llefydd rŵan sydd heb feddygon teulu rheolaidd o gwbl, llefydd lle mae'r nifer ohonynt wedi haneru. Wrth gwrs dyw'r niferoedd ledled Cymru heb gynyddu yn y deng mlynedd diwethaf, er bod nifer y cleifion wedi cynyddu..."

"Heb ofal cynradd safonol a meddygfeydd fe wnaiff gofal eilaidd ddymchwel."

"Rwy'n rhagweld argyfwng yma o fewn 12 mis gydag amryw o feddygfeydd gyda hanner y staff, rhai lle mae'r partner wedi ymddeol a lle nad oes un arall wedi cymryd ei le."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r tueddiadau gweithlu a'r problemau recriwtio mewn rhai ardaloedd o'r wlad sydd angen cael eu datrys.

"Rydym yn gweithio'n ofalus gyda'r byrddau iechyd, Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a Deoniaeth Cymru er mwyn datblygu mentrau hyfforddi a recriwtio arloesol ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol