Abertawe 4-0 Malmö

  • Cyhoeddwyd
Michu
Disgrifiad o’r llun,
Yr hen ffefryn Michu sgoriodd y gôl gyntaf

Mae Abertawe wedi curo Malmö'n hawdd 4-0 yng nghymal cyntaf trydedd rownd ragbrofol Cynghrair Ewropa.

Roedd Abertawe'n edrych yn gyfforddus o'r dechrau, er mai hon oedd eu gêm swyddogol gyntaf y tymor hwn a bod Malmö eisoes hanner ffordd drwy eu tymor nhw.

Er i Malmö fod yn anlwcus i beidio cael cic o'r smotyn yn gynnar yn y gêm, doedden nhw ddim yn edrych fel eu bod yn meddu ar y gallu i ddod nôl mewn iddi gêm wedi i Michu ddarganfod y rhwyd ar ôl 34 munud i roi Abertawe ar y blaen.

Fe sgoriodd chwaraewr newydd yr Elyrch, y dyn £12m Wilfried Bony, ddwywaith yn yr ail hanner i roi Abertawe 3-0 ar y blaen.

Dyn arall oedd yn chwarae ei gem gyntaf i'r tîm o Gymru, Alejandro Pozuelo, sgoriodd y bedwerydd, i roi Abertawe mewn sefyllfa wych i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Ewropa.

Hon yw'r tro cyntaf i Abertawe chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd ers 22 mlynedd, yn dilyn penderfyniad Uefa i beidio â chaniatâu clybiau o Gymru sy'n chwarae yng nghynghrair Lloegr i gynrychioli Cymru yn Ewrop.

Dywedodd rheolwr Abertawe Michael Laudrup: "Roedd hon yn noson berffaith i ni. Pedair gôl i ni heb ildio gôl oddi cartref. Dwy gôl i'r blaenwr newydd, Michu'n sgorio a Pozuelo'n llwyddo i rwydo yn ei gem gyntaf. Dim anafiadau. Noson berffaith."