Ynys Môn: Cefnogaeth Llafur yn 'feddal'

  • Cyhoeddwyd
Tal Michael a Nathan GillFfynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,
Tal Michael o'r blaid Lafur ddaeth yn ail ac UKIP yn drydydd ond roedd hi'n agos rhwng y ddwy blaid

Mae canlyniad Ynys Môn yn rhan o ddarlun ehangach sydd yn 'creu pryder mawr i'r blaid (Lafur) ar lefel Gymreig a Phrydeinig' yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Yn yr isetholiad i'r Cynulliad fe enillodd Plaid Cymru o fwyafrif o fwy na 42% neu 9166 o bleidleisiau. Llafur ddaeth yn ail ond roedd hi yn agos rhyngddyn nhw ac UKIP gydag ychydig gannoedd yn gwahaniaethu'r ddwy blaid:

"Yn y polau piniwn mae Llafur fel petai yn gwneud yn weddol barchus.

"Ond mae'r dystiolaeth o etholiadau yn awgrymu bod y bleidlais neu'r gefnogaeth honno yn feddal iawn a dw i'n meddwl bod isetholiad Ynys Môn yn cadarnhau pa mor feddal ydy'r gefnogaeth ymddangosiadol yma i Lafur yn y polau piniwn," meddai Richard Wyn Jones ar y Post Cyntaf bore Gwener.

Buddugoliaeth

Dywedodd fod y canlyniad yn un "ysgubol" i Blaid Cymru a'i bod hi yn fuddugoliaeth sydd yn, "chwalu hygrededd yn sicr y pleidiau mawr eraill."

Mi oedd cael ymgeisydd hefo proffil uchel o help i'r blaid meddai ond ychwanegodd fod y ffordd yr oedd Plaid Cymru wedi rhedeg ei hymgyrch hefyd wedi bod yn bwysig:

"Does dim amheuaeth fod Plaid Cymru wedi gweithio llawer iawn caletach na'r pleidiau eraill, bod nhw wedi rhoi fwy o adnoddau mewn i'r sedd, bod ganddyn nhw fwy o beirianwaith yna i gychwyn ond bod nhw wedi gweithio yn eithriadol o galed."

Ychwanegodd bod Plaid Cymru wedi "cofio" sut i ymladd etholiad gan ddweud yn y gorffennol ei bod wedi bod yn araf yn datblygu y ffyrdd gwahanol o redeg ymgyrch: "Mae'n ymddangos i fi bod nhw wedi erbyn hyn cofio sut mae rhedeg ymgyrch effeithiol."

UKIP

Trydydd oedd UKIP yn yr isetholiad gan ddod yn agos i ddisodli Llafur o'r ail safle. Doedd y canlyniad hwnnw ddim yn sioc meddai Richard Wyn Jones: "Mae 'na graidd o bleidlais gymharol fychan iddyn nhw mewn llefydd fel Ynys Môn. Dw i'm yn meddwl bod nhw wedi mynd llawer iawn tu hwnt i hynny."

Yn ôl Avril Davies, un o gefnogwyr UKIP oedd yn y cyfri yn Ynys Môn mae'r blaid yn hapus gyda'i pherfformiad: "I feddwl hefyd bod ni yn barti ifanc, dw i'n meddwl bod ni wedi gwneud yn reit dda ond dw i'n gwybod nawn ni yn well y tro nesaf."

Dywedodd wrth siarad gyda phobl ar garreg y drws bod pobl eisiau rhywbeth gwahanol ac mai dyna pam y llwyddodd UKIP i herio Llafur:

"Ma 'na bobl wedi syrffedu efo Llafur a'u polisïau nhw ac maen nhw yn dweud bod nhw eisiau newid a dyna pam maen nhw yn troi aton ni.

"Dw i'n meddwl bod ni wedi tynnu lot o bleidleisiau oddi wrth pobl fel Llafur a'r Ceidwadwyr."