Ewrop: Llafur yn dewis Vaughan
- Cyhoeddwyd

Mae Llafur wedi dewis Derek Vaughan ar frig eu rhestr ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop.
Mae Vaughan eisoes yn ASE, wedi iddo gael ei ddewis i gynrychioli ei blaid yn etholiadau Ewropeaidd 2009.
Bydd yr etholiadau nesaf yn cael eu cynnal yn 2014.
Jayne Bryant sy'n ail ar y rhestr, gyda Alex Thomas yn drydydd a Christina Rees yn bedwerydd.
Y rhai heblaw am Mr Vaughan sy'n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop yw Kay Swinburne o'r Ceidwadwyr, Jill Evans o Blaid Cymru a John Bufton o UKIP - mae Mr Bufton wedi dweud na fydd yn sefyll eto.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd yr AS Harriet Harman: "Rwy'n falch bod pobl mor gryf, ymrwymedig ac ysbrydoledig wedi eu dewis gan aelodau cyffredin o'r blaid i fod yn ymgeiswyr ASE yng Nghymru.
"Fel y bobl byddent yn ceisio eu cynrychioli, maen nhw'n dod o bob math o gefndiroedd ac o'r holl wahanol gymunedau sy'n byw yma yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- 31 Gorffennaf 2013
- 25 Mai 2013
- 24 Mai 2013