Prosiect Gwyrdd yn cael ei gymeradwyo
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo Prosiect Gwyrdd, sef cynllun i gael gwared ar wastraff na all gael ei ail-gylchu.
Bydd y fenter yn derbyn dros £4.2m y flwyddyn am gyfnod o 25 mlynedd.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd Prosiect Gwyrdd yn eu galluogi i gyrraedd eu nod o weld dim gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi erbyn 2025.
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi galw'r penderfyniad yn un "cywilyddus".
Swyddi
Menter ar y cyd rhwng pum cyngor gwahanol yn ne Cymru yw Prosiect Gwyrdd, sef cynghorau Caerdydd, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Morgannwg.
Mae safle'n cael ei chodi gan Viridor yn Trident Park yng Nghaerdydd, ac mae'r llywodraeth yn dweud y bydd 360 o swyddi'n cael eu creu yn ystod y cyfnod o adeiladu a bydd 36 swydd llawn amser ar y safle pan mae'n weithredol.
Amcan y prosiect yw trin gwastraff na alla ei ailgylchu mewn ffordd gynaliadwy drwy gynhyrchu egni a gwres drwy losgi yn hytrach na chladdu gwastraff.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer faint o wastraff gall cynghorau ei gladdu - dim mwy na 10% erbyn 2020 ac uchafswm o 5% erbyn 2025.
Ond y gobaith yw na fydd dim gwastraff yn cael ei gladdu erbyn 2025.
Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies: "Mae cynghorau ledled Cymru yn wynebu hinsawdd ariannol arbennig o anodd ac maent yn ceisio gwella eu gwasanaethau gan ddefnyddio llai o adnoddau. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu cynghorau'r De-ddwyrain i arbed arian a all gael ei wario ar ein hysgolion, ein llyfrgelloedd a'n ffyrdd.
"I bob pwrpas, mae anfon gwastraff i'w dirlenwi yn gyfystyr â thaflu arian i ffwrdd."
Beirniadaeth
Ond mae Cyfeillion y Ddaear wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth, gan ddweud bod ffyrdd gwell o ddelio gyda gwastraff.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb: "Dydi llosgi ein gwastraff yn hytrach na'i gladdu ddim yn opsiwn call. Mae'r prosiect yma yn ein clymu i greu gwastraff - a thalu trwy'r trwyn amdano - am y pum mlynedd ar hugain nesaf, ac yn niweidio'r ymdrechion calonogol sydd wedi bod mewn blynyddoedd diweddar i gynyddu ailgylchu a lleihau gwastraff.
"Mae yna opsiynau gwell, rhatach a mwy hyblyg o ddelio gyda'r swm gostyngol o sbwriel bin du rydyn ni'n cynhyrchu. Mae'r newyddion fod Llywodraeth Cymru yn ariannu'r dechnoleg deinasoraidd o hen ffasiwn yma yn gywilyddus a siomedig dros ben."
Dywedodd Dave Prosser o gymdeithas Cardiff Against The Incinerator: "Mae'n warthus bod Llywodraeth Cymru yn rhoi miliynau o bunnoedd i brosiectau sy'n mynd yn erbyn eu polisïau gwastraff."
"Byddwn yn mynnu bod Pwyllgor Archwilio'r Senedd yn galw am atebion.
"Byddwn hefyd yn parhau gydag achos yn yr Uchel Lys i atal y llosgydd ofnadwy yn Sblot."
Straeon perthnasol
- 1 Chwefror 2013
- 1 Chwefror 2013
- 1 Mawrth 2012