Rhosneigr: dyn mewn cyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, wedi i dri o bobl gael eu hachub o'r môr ger Rhosneigr.
Cafodd y tri eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bu farw un dyn o'i anafiadau.
Mae'r Heddlu yn credu bod y dyn wedi marw wedi iddo fynd i'r dŵr i geisio achub un o'r dynion eraill.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau bod tri pherson mewn trafferthion yn y môr ychydig cyn 3.00yh ddydd Gwener.
Cafodd Gwylwyr y Glannau o Gaergybi eu galw i Draeth Llydan, ac roedd y gwasanaeth ambiwlans a hofrennydd yr awyrlu wedi eu galw hefyd.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans bod dau o bobl wedi eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn cyflwr difrifol.
Bu farw un o'r dynion er gwaethaf ymdrechion meddygon, ac mae'r dyn arall yn ddifrifol wael.
Cafodd y dyn arall, sydd yn ei arddegau, ei gludo gan ambiwlans i'r ysbyty, yn dioddef o anafiadau i'w goes.
Gwyntoedd cryf
Dywedodd Alf Pritchard o'r RNLI ym Mae Trearddur bod y tîm achub wedi lansio eu cwch Atlantic 85 ychydig cyn 3.00yh i roi cymorth.
"Roedd y tywydd yn ddrwg iawn yn yr ardal, gyda gwyntoedd o 30mya," meddai.
"Unwaith i ni fynd o gwmpas y pentir, fe wnaethon ni deimlo nerth y gwynt a'r môr."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i ddigwyddiad lle'r oedd dau ddyn mewn trafferthion yn y dŵr.
"Cafodd y ddau eu cymryd i Ysbyty Gwynedd lle mae un yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
"Ar hyn o bryd rydym yn credu bod trydydd dyn wedi mynd mewn i'r dŵr i geisio helpu ac wedi mynd i drafferthion. Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd gan Sgwadron 22 yr Awyrlu Brenhinol lle cafodd ei ddatgan yn farw.
"Mae'r heddlu'n gweithio gydag asiantaethau eraill wrth ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad."