Croeso cynnes yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd

Mae'r ymelwyr cyntaf yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 wedi iddi agor ei drysau yn swyddogol.
Wedi 12 mlynedd, mae'r Brifwyl yn dychwelyd i'r un safle ar gyrion tref Dinbych.
Wedi dwy flynedd o baratoi a chodi arian, fe gychwynodd y cyfan gyda chyngerdd nos Wener i ddathlu caneuon y cyfansoddwr lleol, Robat Arwyn, sy'n byw yn Rhuthun bellach. Roedd ei waith yn amlwg iawn y tro diwethaf yr oedd y Brifwyl yn ymweld â'r ardal - fe ysgrifennodd 'Atgof o'r Sêr' yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001.
Ymhlith y perfformwyr nos Wener roedd Rhys Meirion, Côr Rhuthun a chôr merched o ysgolion uwchradd yr ardal.
Roedd 18,207 o bobl wedi ymweld â'r Maes ym Mro Morgannwg ar y Sadwrn cynta'r llynedd. Gyda'r Eisteddfod wedi cyflwyno nifer o bethau newydd i'r arlwy eleni, maen nhw'n gobeithio y bydd pobl yn heidio yn eu miloedd i Ddinbych.
'Arbennig'
Meddai Hywel Wyn Edwards, sy'n dechrau ar ei Brifwyl ola' fel Trefnydd:
"Neges syml sydd gennym ni ar ddechrau'r wythnos - dewch atom i Sir Ddinbych - mae'n mynd i fod yn wythnos arbennig iawn.
"Mae'r Maes yn edrych yn arbennig eleni, ac mae'r tywydd braf dros yr wythnosau diwethaf wedi hwyluso'r gwaith o roi popeth at ei gilydd yn fawr.
"Mae'r tywydd braf yn golygu bod popeth yn ei le mewn da bryd, ac mae'r tywydd hefyd yn golygu nad yw'r tir wedi dioddef yn sgil y cawodydd trymion yn gynharach yr wythnos hon."