Tymor Casnewydd yn dechrau

  • Cyhoeddwyd
Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,
Ai Casnewydd fydd yr Abertawe nesaf?

Wedi chwarter canrif yn y diffeithwch, mae Clwb pêl-droed Casnewydd yn paratoi i chwarae eu gêm gyntaf yng nghynghrair Lloegr y penwythnos yma ers 1988.

Accrington Stanley yw'r gwrthwynebwyr, a bydd y tîm o Gymru'n gobeithio y byddent yn llwyddo i greu argraff ar eu cefnogwyr ffyddlon yn Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Mae Casnewydd wedi bod drwy amser anodd yn dilyn eu cwymp yn niwedd yr wythdegau, ond maent yn ddistaw hyderus y bydd eu lwc, wnaeth ddechrau wrth i ddyn lleol sydd nawr yn gadeirydd ar y clwb ennill £45m ar y loteri, yn parhau.

Casnewydd yw'r ffefrynnau heddiw yn ôl y bwcis, ond oes ganddynt ddigon o bêl-droed ynddynt i lwyddo yn yr Ail Adran?

Caledwch

Fe aeth y clwb i'r wal yn 1989 gyda dyledion o dros £300,000, ond yn ddiweddarach y flwyddyn honno ffurfiwyd clwb newydd - ond roedd rhaid iddynt ddechrau o waelod y system Saesneg.

Wedi gorfod chwarae eu gemau cartref yn Lloegr am gyfnod wedi iddynt wrthod ymuno a chynghrair Cymru, mae pethau o'r diwedd yn edrych yn well i'r clwb wnaeth guro tîm arall o Gymru yn rownd olaf y gemau ail gyfle er mwyn ennill yr hawl i chwarae yn yr ail adran.

Wrecsam oedd y tîm anffodus - nid bod y rheolwr Justin Edinburgh yn cydymdeimlo.

"Rydym ni eisiau bod yn gystadleuol. Rwyf eisiau sicrhau ein bod ni, fel y gwnaethom ni'r flwyddyn ddiwethaf, yn gwneud cyfiawnder â ni ein hunain," meddai.

"Yn y tymor byr rwyf eisiau sicrhau ychydig o bwyntiau a dysgu am y gynghrair. Os allwn ni fod yn hanner uchaf y tabl adeg y Nadolig yna fe gawn ni ail edrych ar bethau wedyn.

"Y prif nod yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n aros yn y gynghrair hon."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Ben Murphy'n credu y gall ei glwb wneud yn dda eleni

'Gwaith caled'

Gyda llond trol o chwaraewyr newydd, profiadol, mae eu cefnogwyr yn gobeithio y gallan nhw, gydag ychydig o waith caled a dygnwch, wneud yn dda iawn y tymor hwn.

Mae Ben Murphy wedi bod yn cefnogi'r clwb ers yn blentyn, a dywedodd: "Mae o 'chydig fel hangover - nawr ry'n ni wedi sylweddoli bod angen rhoi'r gore i'r dathlu a dechrau ar y gwaith caled!

"O weld timau fel Bristol Rovers a Portsmouth yn y gynghrair, mae'n gwneud i ni deimlo'n dda ein bod ni nôl lle dylen ni fod."

Ydy Ben yn credu y bydd ei glwb yn dal i fod yng nghynghrair Lloegr y flwyddyn nesaf?

"Ar ôl edrych ar gemau pre-season, rwy'n meddwl: ie!"

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol