Iawndal i gwsmeriaid cwmni ffôn
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni rhwydwaith ffonau symudol wedi cynnig iawndal i gwsmeriaid yng nghanolbarth Cymru, wedi i nam achosi misoedd o drafferthion i bobl ym Mhowys.
Mae cwsmeriaid y cwmni EE yn Aberhonddu, Crug Hywel a Llanfair ym Muallt yn dweud eu bod wedi dioddef problemau gyda'r rhwydwaith ers mis Chwefror.
Nawr, mae'r cwmni yn rhoi cyfle i gwsmeriaid hawlio arian yn ôl am y drafferth.
Mae Aelod Cynulliad Aberhonddu Kirsty Williams wedi annog cwsmeriaid i gysylltu â'r cwmni i hawlio arian, wedi iddi dderbyn nifer fawr o gwynion am y sefyllfa.
Roedd Ms Williams wedi dechrau ymgyrch ar wefan Facebook yn galw ar gwsmeriaid gafodd eu heffeithio i gysylltu â hi.
Mae'r cwmni, gafodd ei ffurfio wrth uno cwmnïoedd T-Mobile ac Orange yn 2010, yn dweud bod y problemau wedi eu hachosi oherwydd namau technegol gyda mastiau yn yr ardal.
Ymddiheuriad
Dywedodd llefarydd ar ran EE: "Rydym ni wedi bod yn archwilio'r rhwydwaith yn ardal Aberhonddu ac ar hyd yr A40 ac mae'n edrych fel bod y gwasanaeth yn gweithio."
"Rydym ni'n parhau i fonitro'r safleoedd yn agos i werthuso perfformiad a sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth o safon i gwsmeriaid.
"Rydym ni hefyd yn cwblhau manylion yr iawndal fydd ar gael i gwsmeriaid."
Mae Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, Roger Williams wedi bod yn ymgyrchu dros sicrhau gwasanaeth gyfathrebu yn yr ardal.
Dywedodd: "Mae gwella'r gwasanaeth rhwydwaith wedi bod yn fater ymgyrchu i mi ers cyfnod hir, a byddaf yn parhau i roi pwysau ar y cwmnïau i sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn y gwasanaeth maen nhw'n ei dalu amdano."
Straeon perthnasol
- 28 Mehefin 2013
- 1 Awst 2013