Dathlu traddodiad barddol Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd

Tudur Aled, Ehedydd Iâl, Jac Glan-y-Gors, Twm o'r Nant, Gwilym Hiraethog, T Gwynn Jones, Gwilym R Jones …
Y mae i Sir Ddinbych draddodiad barddol cyfoethog iawn gyda rhai o enwau mawr llenyddiaeth Gymraeg yn hanu o'r sir neu wedi symud yno a bwrw gwreiddiau yn naear Clwyd.
Arwydd o sut y mae'r traddodiad hwnnw yn parhau yn fyw ac yn iach yw cyfrol newydd o farddoniaeth gan feirdd cyfoes a gyhoeddwyd i gydfynd ag ymweliad y Brifwyl a thref Dinbych eleni.
Ac yn addas iawn, golygwyd Beirdd Bro'r Eisteddfod gan gadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod honno, John Glyn Jones, sydd wedi cynnwys nifer o feirdd nad ydynt wedi cyhoeddi eu gwaith o'r blaen.
Mae'n ystyried y gyfrol a gyhoeddir gan Barddas fel rhan o'r gwaddol yn sgil ymweliad y Genedlaethol â'i dref enedigol.
"Un peth o'n i eisiau'i weld oedd rhywbeth oedd yn para ar ôl i'r Eisteddfod basio ac wedyn o'n i'n teimlo y byddai'n beth da cael beirdd dalgylch yr Eisteddfod i gyfrannu cerddi a chyhoeddi cyfrol ohonyn nhw," meddai.
"O'n i'n teimlo byddai cyhoeddi cyfrol yn cyfrannu at y gwaddol ar ôl i'r Eisteddfod basio," ychwanegodd.
10 bardd
Yn ogystal â 26 o gerddi - yn cynnwys nifer dda o englynion - ganddo ef ei hun y mae John Glyn Jones wedi cynnwys gweithiau caeth a rhydd gan ddeg o feirdd "lleol" eraill - rhai ohonyn nhw wedi eu geni yn y sir, eraill wedi symud a chartrefu yno.
"Dydy'r mwyafrif helaeth erioed wedi cyhoeddi o'r blaen ond yn feirdd reit amlwg mewn eisteddfodau lleol ac ati," meddai.
Y deg yw Rhys Dafis, Desmond Healy, Arwel Emlyn Jones, Eifion Lloyd Jones, Gwynedd Jones, Huw Dylan Jones, John Glyn Jones, Gwion Lynch, Berwyn Roberts, Dafydd Emrys Williams ac yn eu plith un ferch, Nia Môn, a enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 1997 ac Eisteddfod y Wladfa yn 2007.
Wedi symud i Sir Ddinbych yn 2006, mae'n awr yn byw yn ardal Llanelidan-Pentrecelyn ger Rhuthun.
Mae bywgraffiad cryno a llun o bob un o'r beirdd ar ddalen gyntaf y detholiad o'u cerddi.
Ychwanegiad buddiol i'r gyfrol yw ysgrif ragymadrodd am gyfoeth traddodiad barddol y fro gan yr hanesydd, E Gwynn Matthews.
Bro y disgrifiodd John Glyn Jones hi, mewn cywydd croeso i Eisteddfod 2013 fel un a "fu i feirdd yn brif werddon" dros y canrifoedd.
'Bwrlwm o hanes'
Yn un o Ddinbych ei hun, magwyd John Glyn Jones ar fferm Llys Farm ar y ffordd rhwng Dinbych a Phrion, ger un o safleoedd mwyaf hanesyddol ardal sy'n fwrlwm o hanes - mae olion llys Gwenllian, merch Llywelyn Fawr, ger y tŷ ble y cafodd ei fagu.
"Yno," meddai, "y gosododd Mam ei lein ddillad am ei fod yn lle da i sychu ar godiad tir!"
Ar ôl graddio mewn amaethyddiaeth ym Mangor, bu John Glyn Jones yn gweithio i'r Bwrdd Marchnata Llaeth, yn athro, yn ddarlithydd coleg amaethyddol ac, nes ymddeol yn 2007, yn rhedeg Cymdeithas Tai Clwyd.
Ef yw trysorydd y Gymdeithas Gerdd Dafod, a chyhoeddodd gyfrol o gerddi, Trwm ac Ysgafn, gyda Barddas yn 2010.
Mae'n aelod brwd o dîm Talwrn y Beirdd Hiraethog.
Bydd Beirdd Bro'r Eisteddfod ar werth ar Faes yr Eisteddfod.