Grant i goffáu'r Rhyfel Mawr yn Aberhonddu
- Cyhoeddwyd

Mae prosiect yn Aberhonddu wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, i helpu'r dref goffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd yr arian yn galluogi i brosiect 'Cofio Aberhonddu' wneud ymchwil i'r 119 o ddynion lleol a enwir ar gofebion y dref.
Daw'r cyhoeddiad flwyddyn cyn rhaglen o ddigwyddiadau i gofio canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ar 4 Awst 2014.
Dyma'r grant cyntaf i'r Gronfa ei roi, fel rhan o'r rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw.
Ymchwilio
Bydd yr arian yn cael ei roi i adran Hanes Teuluoedd cangen Aberhonddu o Brifysgol y Drydydd Oes, er mwyn i bobl ymchwilio ac astudio hanes y dynion aeth i ymladd yn y rhyfel.
Y bwriad yw casglu gwybodaeth am bob un o'r dynion sydd wedi eu henwi ar gofebion y dref, gan gynnwys eu manylion geni, gwaith a'u rôl yn y rhyfel, i'w rannu gyda'r gymuned.
Bydd y gwaith ymchwil yn digwydd dros y naw mis nesaf cyn diweddu gyda nifer o ddigwyddiadau i nodi'r canmlwyddiant yn 2014.
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cymru o Gronfa Dreftadaeth y Loteri: "Mae'r rhaglen grantiau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn hynod bwysig gan y bydd yn helpu cymunedau ledled Cymru i goffáu eu treftadaeth Rhyfel Byd Cyntaf."
"Mae Cofio Aberhonddu yn enghraifft wych o'r math o brosiect cymunedol y gallwn ni ei ariannu."
Hybu ymwybyddiaeth
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn bwriadu rhoi nifer o grantiau dros y flwyddyn nesaf, i hybu prosiectau fydd yn coffau'r milwyr na ddaeth yn ôl wedi'r rhyfel.
Mae yna bwyslais penodol ar gynnwys pobl ifanc yn y coffáu, i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am effaith y rhyfel ar gymunedau Cymru.
Mae'r Athro Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol sy'n ymgynghorydd i'r Llywodraeth ar ddigwyddiadau coffáu wedi croesawu'r cynllun, a'r brwdfrydedd i goffáu milwyr Cymru.
"Wrth i ni agosáu at ganmlwyddiant y Rhyfel mae hi'n hanfodol ein bod yn coffáu'r rhai a gollodd eu bywydau, y rhai a anafwyd ac eraill a wnaeth chwarae rhan yn y Rhyfel Byd Cyntaf dros bedair blynedd fel y gall y cenedlaethau nesaf ddeall pwysigrwydd mawr y cyfnod hwn yn ein hanes," meddai.
"Mae hi'n galonogol felly gweld bod grwpiau a chymunedau eisoes yn edrych sut gallant goffáu'r Rhyfel yn lleol, flwyddyn cyn y canmlwyddiant, a bydd y prosiectau a gweithgareddau hyn yn cyfrannu tuag at wella dealltwriaeth i'r dyfodol.
"A gobeithiwn weld mwy yn dilyn eu hesiampl dros y blynyddoedd nesaf."
Straeon perthnasol
- 27 Gorffennaf 2013
- 12 Gorffennaf 2013
- 10 Gorffennaf 2013