Dechrau da i Gasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd wedi dechrau eu tymor yn yr Ail Gynghrair gyda buddugoliaeth o 4-1 dros Accrington Stanley.
Yn eu gem gyntaf yn y Gynghrair mewn 25 o flynyddoedd, fe wnaeth Casnewydd ennill diolch i goliau gan Harry Worley, Christian Jolley a Chris Zebroski.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 23 o funudau, Worley yn sgorio yn ei ymddangosiad cyntaf yn Rodney Parade.
Aeth Casnewydd i mewn i'r egwyl ddwy ar y blaen, diolch i gôl Chris Zebroski, un arall yn chwarae ei gem gyntaf i'r clwb, munudau cyn diwedd yr hanner.
Daeth y drydydd yn fuan wedi'r ailddechrau, David Pipe yn creu cyfle i Christian Jolley sgorio.
Zebroski eto oedd yn gyfrifol am y pedwerydd, gan roi Casnewydd ymhell ar y blaen wedi awr o chwarae.
Daeth Accrington yn ôl gyda gôl gan gyn-chwaraewr Manchester United Danny Webber, ond roedd Casnewydd yn gadarn ac roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus yn y diwedd.
Bydd y rheolwr Justin Edinburgh yn sicr yn falch gyda pherfformiad ei dîm wrth iddyn nhw chwarae yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1988.
Cyn y gem dywedodd: "Rydym ni eisiau bod yn gystadleuol. Rwyf eisiau sicrhau ein bod ni, fel y gwnaethom ni'r flwyddyn ddiwethaf, yn gwneud cyfiawnder â ni ein hunain."
"Yn y tymor byr rwyf eisiau sicrhau ychydig o bwyntiau a dysgu am y gynghrair. Os allwn ni fod yn hanner uchaf y tabl adeg y Nadolig yna fe gawn ni ail edrych ar bethau wedyn.
"Y prif nod yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n aros yn y gynghrair hon."
Mae'r fuddugoliaeth yn mynd a Casnewydd i frig y tabl, yn gydradd gyntaf gyda Oxford United.
Casnewydd 4 - 1 Accrington Stanley
Straeon perthnasol
- 3 Awst 2013
- 28 Gorffennaf 2013