Swyddi technolegol i'r Cymoedd
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni technoleg yn creu 20 o swyddi a chynllun prentisiaid yng Nghymoedd y de.
Mae Logicalis wedi symud ei chanolfan Prydeinig, sy'n rhoi cymorth i fusnesau dros y wlad, o Falaysia i Nantgarw, ger Caerffili.
Cafodd y ganolfan ei sefydlu gyda grant o £438,000 gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r gweinidog economi, Edwina Hart wedi ei agor yn swyddogol.
Agorodd Logicalis ei swyddfa gyntaf yng Nghymru yn 2007, gan gyflogi 10 o bobl. Nawr mae dros 80 o swyddi gyda'r cwmni yn ne Cymru.
Wrth agor y ganolfan, dywedodd Edwina Hart: "Mae symud gwasanaethau technolegol o Falaysia i Gymru yn dangos y cyfleoedd a'r sgiliau mae Cymru yn gallu eu cynnig i fentrau byd-eang, ac mae'n neges gref i'r diwydiant."
"Mae'n adlewyrchiad o lwyddiant cangen Gymreig y cwmni, a'r staff o safon uchel sydd yma."
'Dewis amlwg'
Mae Logicalis yn cyflogi bron i 3,500 o bobl dros y byd, ac mae ganddyn nhw refeniw blynyddol o £924 miliwn.
Mae'r cwmni wedi bod yn ganolog i helpu sefydlu rhwydwaith band-eang cyflym i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd rheolwr Logicalis ym Mhrydain, Mark Starkey bod Cymru yn ddewis amlwg i sefydlu'r ganolfan.
"Mae Cymru yn cynnig sgiliau, proffesiynoldeb a brwdfrydedd i arloesi y mae eu hangen i greu a dosbarthu gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth i'n cwsmeriaid dros y DU.
"Gallai ond gweld ein presenoldeb yma yn tyfu."
Straeon perthnasol
- 11 Gorffennaf 2013
- 10 Gorffennaf 2013