Croeso cynnes yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Y Maes yn Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,
Daeth 16,571 i'r Maes yn Ninbych ar y dydd Sadwrn cynta'

Yng nghanol heulwen braf, daeth 16,571 i'r Maes yn Ninbych ddydd Sadwrn ar ddiwrnod cynta' Eisteddfod Genedlaethol 2013.

Mae hyn yn uwch na'r 15,749 o ymwelwyr aeth i Fro Morgannwg ar y Sadwrn cynta'r llynedd, ond yn is na'r 17,881 aeth drwy gatiau Eisteddfod Wrecsam ar y diwrnod cynta' yn 2011.

Prif gystadlaethau'r Pafiliwn oedd y Bandiau Pres a'r Corau Cymysg.

Yn ystod y prynhawn cyhoeddwyd enillwyr prif wobrau celf y Brifwyl.

Penseiri John Pardey gipiodd y Fedal Aur am Bensaernïaeth a daeth merched i'r brig mewn tair cystadleuaeth.

Cafodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain ei rhoi i Josephine Sowden, y Fedal Aur am Grefft a Dylunio i Theresa Nguyen o Birmingham, a Becca Voelcker o Garndolbenmaen dderbyniodd Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc.

Mae'r Brifwyl eleni yn cael ei chynnal ar yr un safle ag yn 2001, ar gyrion tref Dinbych.

Ond i'r rhai sydd angen ychydig o help i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas y maes, mae teithiau tywys yn cael eu cynnal am y tro cynta' eleni.

Bydd y teithiau yn cychwyn pob dydd am 10.30yb a 1.30yh o'r Ganolfan Ymwelwyr, ac am 12.30yh o Faes D.

'Taith hwyliog'

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Bwriad y teithiau tywys yw darparu gwasanaeth i'n hymwelwyr sydd angen neu eisiau ychydig o arweiniad, sydd efallai ychydig yn ansicr o'r hyn sydd ar gael i'w wneud ar y Maes, neu unrhyw un sydd awydd cael taith hwyliog a llawn gwybodaeth am yr Eisteddfod."

Wedi dwy flynedd o baratoi a chodi arian, fe gychwynodd y Brifwyl gyda chyngerdd nos Wener i ddathlu caneuon y cyfansoddwr lleol, Robat Arwyn, sy'n byw yn Rhuthun bellach. Roedd ei waith yn amlwg iawn y tro diwethaf yr oedd y Brifwyl yn ymweld â'r ardal - fe ysgrifennodd 'Atgof o'r Sêr' yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001.

Ymhlith y perfformwyr nos Wener roedd Rhys Meirion, Côr Rhuthun a chôr merched o ysgolion uwchradd yr ardal.

Perfformiad o'r Meseia gan Handel oedd yr arlwy yn y cyngerdd nos Sadwrn, gyda'r unawdwyr Elin Manahan Thomas, Leah-Marian Jones, Gwyn-Hughes Jones a Gary Griffiths, gyda Chôr yr Eisteddfod a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae gweithgaredd y Pafiliwn fore Sul yn dechrau gyda'r Oedfa am 9:30yb. Yna bydd mwy o gystadlu rhwng y bandiau pres a chorau cymysg.

'Arbennig'

Meddai Hywel Wyn Edwards, sy'n gorffen ei gyfnod fel Trefnydd wedi'r Eisteddfod eleni:

"Neges syml sydd gennym ni ar ddechrau'r wythnos - dewch atom i Sir Ddinbych - mae'n mynd i fod yn wythnos arbennig iawn.

"Mae'r Maes yn edrych yn arbennig eleni, ac mae'r tywydd braf dros yr wythnosau diwethaf wedi hwyluso'r gwaith o roi popeth at ei gilydd yn fawr.

"Mae'r tywydd braf yn golygu bod popeth yn ei le mewn da bryd, ac mae'r tywydd hefyd yn golygu nad yw'r tir wedi dioddef yn sgil y cawodydd trymion yn gynharach yr wythnos hon."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol