Oedfa'r Eisteddfod: Galwad i weithredu

  • Cyhoeddwyd
Oedfa'r Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,
"Lleisiau" oedd thema'r gwasanaeth dan arweiniad y Parchedig Wayne Roberts (dde)

Cafodd y gynulleidfa yn oedfa'r Eisteddfod Genedlaethol fore Sul ei hannog i weithredu, ac i wneud hynny mewn ysbryd anenwadol ac yn unol â llais Duw a Christ.

"Lleisiau" oedd thema'r gwasanaeth dan arweiniad y Parchedig Wayne Roberts, sy'n gofalu am 11 o gapeli bro Presbyteraidd yn ardal Dinbych, gan gynnwys Y Capel Mawr yn y dref ei hun.

Ac at un o weithgareddau y capel hwnnw, banc bwyd, y cyfeiriodd yn ystod y gwasanaeth fel enghraifft o''r gweithredu hwnnw.

"Mae'r gymdeithas heddiw yn tystio i dlodi mawr ymhlith pobl sydd wedi arfer cael bywyd eitha' dosbarth canol, ac yma yn nhref Dinbych, nepell o gae'r Eisteddfod, mae yr angen i sefydlu Banc Bwyd wedi bod yn syfrdan inni, a'r angen amdano yn anghredadwy," meddai.

"Ond wedi'r sefydlu a gweithredu am bron i flwyddyn, mae'n braf meddwl fod drysau Capel Mawr yn agored led y pen i bobl ddod i mewn i hyfrydwch yr adeilad ac, wrth iddyn nhw fynd oddi yno yn cludo eu pasta, cawl a beans ac yn y blaen, pwy ŵyr nad ydynt wedi eu lapio â thosturi a chariad yr Iesu.

"Yn gymaint i chi wneuthur i un o'r rhai lleiaf hyn, i mi y gwnaethoch," meddai .

"Comisiwn a gawsom gan ein gwaredwr i fyned allan i ganol y bobl ac, mor ymarferol a phosib, cyflwyno yr hyn a gyflawnodd ef ei hun tra'n rhodio'r ddaear yma.

"Wnawn ni mo hynny wrth eistedd yn seti ein hadeiliadau, yn darogan fod y diwedd yn agos, ond drwy wasanaethu yn ein cymunedau, a rhoi'r cyfle i bobl glywed yr Iesu yn siarad â nhw yn eu hamgylchiadau," ychwanegodd.

'Lleisiau gwahanol'

Canmolodd natur anenwadol gweithredu o'r fath gan ganmol hefyd natur gydenwadol oedfa'r Eisteddfod Genedlaethol ei hun a'r "holl leisiau gwahanol yn moli Duw".

"Deuthum i fewn drwy ddrysau'r Pafiliwn bore ma heb i neb ofyn o ba enwad y deuthum, ac i ba blaid yr ydym yn perthyn," meddai.

"Dod yma i addoli Duw oedd y nod a hynny mewn ysbryd a gwirionedd," ychwanegodd gan ddisgrifio'r Pafiliwn fel ein "haddoldy cyd enwadol" y bore hwnnw.

Yr oedd eisoes wedi rhybuddio bod pethau llawer pwysicach na bygythiadau i enwadaeth i'r Cristion boeni amdanynt.

"Os ydy enwadau yn fregus ac yn dadfeilio. Os ydy'n hadeiliadau wedi goroesi eu defnyddioldeb a'u bwriad. Elfennau bach iawn ydynt mewn argyfwng llawer mwy, lle mae Cristnogaeth wedi colli'r weledigaeth o'r Crist a fu fyw fel dyn yn ein plith, gan raeadru ei gariad a'i ras i'w bobl, ym mhob amgylchiad a thras," meddai.

Dywedodd hefyd fod y dewis i arweinwyr crefyddol heddiw yn fwy heriol nag erioed.

"Plesio pobl, a ddylai herio'u ffydd eu hunain, neu aros yn driw i'r Crist a dalodd y pris drudfawr," meddai.

"O'r holl leisiau a glywyd ac a glywir yma yn yr oedfa y bore ma mae un llais yn amlwg," meddai. "A'n cyfrifoldeb ni ydyw ei wrando."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol