Pryder am ddynes yng Nghwmbrân

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ynglŷn â dynes cafodd ei gweld yng Nghwmbrân ddydd Gwener.

Roedd y ddynes wedi stopio car oedd yn pasio ar Ffordd Ton ger Ysgol Hollybush tua 12.30yh.

Roedd hi o dras Tsieineaidd, yn ei 20iau a gyda gwallt du wedi ei glymu yn ôl. Roedd hi'n gwisgo blows wen gyda chrys-t melyn o'i dannodd.

Doedd y ddynes methu siarad Saesneg yn rhugl, ond roedd hi'n pryderu'n fawr, ac roedd ganddi gleisiau ar ei gwddf.

Doedd swyddogion methu a dod o hyd i'r ddynes ac mae'r heddlu yn poeni am ei chyflwr.

Dywedodd Prif arolygydd Rod Grindley: "Rydym ni'n pryderu am ddiogelwch y ddynes yma, ac ers derbyn yr alwad mae swyddogion wedi methu a dod o hyd iddi."

"Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi gweld y ddynes neu yn ei hadnabod i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 neu yn ddienw drwy Taclo'r Taclau 0800 555111."