Dynes ar goll o Landudno
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth am ddynes sydd wedi mynd ar goll o'i chartref yn Llandudno.
Cafodd Anne-Marie Sarjantson, sy'n 29, ei gweld am y tro diwethaf yn ei chartref tua 7.30 fore Sadwrn.
Mae'r BBC yn deall bod Gwylwyr y Glannau, yr RNLI a hofrennydd achub yr Awyrlu o Fali ar Ynys Môn wedi bod yn helpu'r Heddlu i chwilio nos Sadwrn.
Dechreuodd yr ymgyrch unwaith eto fore dydd Sul.
Mae Ms Sarjantson yn wyn, pum troedfedd a chwe modfedd o daldra ac mae ganddi wallt melyn hyd at ei hysgwyddau.
Roedd hi'n gwisgo cardigan hir, crys-t, trowsus du a sandalau gyda blodau arnynt.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am Ms Sarjantson i gysylltu â nhw ar 101.