Cau ysgol i ferched yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Howell's
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ysgol Howell's wedi bod ar agor ers dros 150 o flynyddoedd, ond ni fydd yn agor ym mis Medi

Ni fydd ysgol breifat i ferched yn Sir Ddinbych yn ail agor wedi gwyliau'r haf oherwydd ansicrwydd ariannol.

Mae Ysgol Howell's yn Ninbych wedi bod ar agor ers 154 o flynyddoedd, ond mewn ebost i rieni dywedodd ymddiriedolwyr bod iawndal y bydd rhaid ei dalu i gyn-bennaeth yn creu ansicrwydd am ddyfodol yr ysgol.

Dywedodd Stephen Griffiths, isgadeirydd cymdeithas rhieni ac athrawon yr ysgol wrth BBC Cymru, ei fod wedi "synnu".

Mae'r ysgol yn dweud bod cais am arian yn ymwneud ag achos tribiwnlys y cyn-bennaeth Bernie Routledge a'i bartner Helen Price, pennaeth Addysg Corfforol yr ysgol, yn achosi ansicrwydd.

Penderfynodd y tribiwnlys bod y ddau wedi eu di-swyddo heb reswm, ond dydy swm yr iawndal y bydd rhaid ei dalu heb ei gadarnhau eto.

Mae archwiliad diweddar i sefyllfa ariannol yr ysgol yn dangos i'r cwmni wneud colled o £162,733 yn y flwyddyn hyd at fis Awst 2012.

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod gan yr ysgol dros £450,000 o ddyledion ar y pryd hynny.

Er bod £230,000 wedi ei dalu fis Chwefror, mae'r adroddiad yn amlygu ansicrwydd ariannol yr ysgol, sydd wedi ei gofrestru fel cwmni elusennol.

Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu â'r ysgol a Ms Locke am ymateb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol