Lluniau dydd Sul / Sunday's pictures
- Cyhoeddwyd

Lisa a Rhian gyda Jac y Jwc ar stondin Tŷ Gwerin.

Mae Amelia wrth ei bodd gyda'i wyneb amryliw
Y Pafiliwn dan ei sang ar gyfer Oedfa'r Eisteddfod fore Sul. Roedd yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C.
Mae Lynette Lane o Huddersfield a Keren Goodblatt o Boston, Unol Daleithiau wedi dysgu Cymraeg drwy wefan SaySomethinginWelsh.com ac wedi dod yn ffrindiau drwy siarad gyda’i gilydd ar y we ac ymarfer eu Cymraeg. Nos Sadwrn oedd y tro cyntaf erioed i’r ddwy gyfarfod wyneb yn wyneb!
Alun Jones a Cledwyn Ashford yn croesawu’r ymwelwyr i’r Maes fore Sul.
George Rodger o Aberdeen yn cynnig bwyd figan (vegan) i ymwelwyr y maes. Ar y plât mae pate figan a chacen afal.
Dona Direidi a Ben Dant, dau o gymeriadau Cyw ar stondin S4C
Mae'n saff dweud bod Seindorf Arian Deiniolen a'u harweinydd Lois Eifion yn hapus gyda'u buddugoliaeth yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Pencampwriaeth/Dosbarth 1
Bethan Gwanas yn diddanu'r gynulleidfa yn stondin Radio Cymru wrth ddarllen stori iddyn nhw
Daeth y glaw i'r Maes amser cinio dydd Sul, gyda llawer o bobl yn chwilio am loches yn y Pafiliwn ac mewn amryw stondinau
Daeth y ponchos mewn yn ddefnyddiol iawn b'nawn Sul ar y Maes
Tynnodd y bachgen yma ei sylw oddi ar Tom ap Dan ar y Llwyfan Perfformio am funud er mwyn edrych ar ein camera ni
Ifan bach yn cysgu ar gefn ei dad