16,032 ar y Maes ddydd Sul
- Cyhoeddwyd

Daeth 16,032 o bobl i'r Maes yn Ninbych ar gyfer ail ddiwrnod yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae hyn yn uwch na'r 15,305 a ddaeth i faes Eisteddfod Bro Morgannwg ar y Sul cyntaf y llynedd.
Fe gyrhaeddodd y glaw ganol y prynhawn, ond y gobaith yw na fydd gormod o lanast ar y Maes oherwydd y tywydd braf yn yr wythnosau'n arwain at y Brifwyl, gan olygu bod y tir yn sych oddi tanodd.
Dechreuodd y diwrnod gyda'r Oedfa Eisteddfodol yn y Pafiliwn am 9:30yb.
"Lleisiau" oedd thema'r gwasanaeth dan arweiniad y Parchedig Wayne Roberts, sy'n gwasanaethu yn ardal Dinbych.
Cafodd y gynulleidfa ei hannog i weithredu mewn ysbryd anenwadol ac yn unol â llais Duw a Christ.
Wedi cyflwyniad gan blant cylchoedd meithrin Sir Ddinbych a'r Cyffiniau, roedd 'na fandiau pres a chorau cymysg ymhlith y cystadleuwyr yn y Pafiliwn yn ystod y prynhawn.
Gellir gweld rhestr lawn o ganlyniadau dydd Sul yma.
Mae arlwy'r diwrnod yn cloi gyda'r Gymanfa Ganu yn y Pafiliwn am 8:00pm, dan arweiniad Beryl Lloyd Roberts, o Edeyrnion.
Yn ystod y gymanfa, bydd Arweinydd Cymru a'r Byd, Eryl Aynsley, yn cael ei chyflwyno i'r gynulleidfa gan Lywydd Llys yr Eisteddfod, Prydwen Elfed-Owens.