Dweud eich dweud am gymunedau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed barn y cyhoedd am sut i gynyddu nifer y cymunedau Cymraeg.
Roedd cyfle i bobl drafod y mater ar Faes yr Eisteddfod brynhawn dydd Mawrth.
Sefydlwyd y grŵp y llynedd o dan gadeiryddiaeth Rhodri Llwyd Morgan. Eu tasg oedd creu cynllun gwaith i gynyddu nifer y cymunedau sy'n siarad Cymraeg fel prif iaith.
Mae'r grŵp yn canolbwyntio ar ogledd a de orllewin Cymru, sef ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad a'i defnyddio'n fwy eang a rheolaidd.
Bydd yr adborth a geir o'r Eisteddfod yn rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhelir ar hyn o bryd.
Ymhlith y pynciau a gafodd sylw yn ystod y sesiwn oedd:
- Sut mae cynyddu'r nifer o deuluoedd ifanc sy'n siarad Cymraeg
- Sut i annog pobl sy'n newydd i ardal benodol i sylweddoli arwyddocâd y Gymraeg ac i ystyried ei dysgu
- Sicrhau bod cyflenwad priodol o dai i bobl leol
Mae'r materion eraill sy'n cael eu hystyried yn cynnwys pa swyddi sydd i'w cael yn y gogledd a'r de orllewin a'r mesurau y gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol eraill eu cymryd i hyrwyddo'r iaith.
Dywedodd y Prif Weinidog: "Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwn yn rhan o'n hymrwymiad i sicrhau y gall pobl fyw bob agwedd o'u bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae hefyd yn fwriad ganddo fynd i'r afael â ffigyrau Cyfrifiad 2011 oedd yn dangos lleihad yn y nifer o siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd sy'n gadarnleoedd traddodiadol i'r iaith.
"Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i leisio'u barn a rhoi awgrymiadau. Edrychaf ymlaen at dderbyn argymhellion gan y grŵp."
Gall pobl a fethodd â mynd i'r sesiwn yn yr Eisteddfod e-bostio sylwadau fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus i cymunedaucymraeg@cymru.gsi.gov.uk. Hefyd, gallwch bostio gwybodaeth at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg, Adeiladau'r Llywodraeth, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1EP.
Mae'r Grŵp yn awyddus i dderbyn unrhyw wybodaeth erbyn Medi 5, 2013.
Straeon perthnasol
- 3 Mai 2012
- 4 Gorffennaf 2013
- 4 Gorffennaf 2013
- 3 Mai 2012