Damwain môr ger Rhosneigr: Cyhoeddi enw dyn

  • Cyhoeddwyd
Rhosneigr
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu'n credu bod y dyn fu farw wedi mynd i'r dŵr i geisio helpu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw ar ôl damwain yn y môr ger Rhosneigr ddydd Gwener.

Cred yr heddlu fod John Raymond Lawrence wedi mynd i'r dŵr i geisio helpu dau ddyn oedd mewn trafferth.

Dywedodd yr heddlu fod cyflwr dyn arall yn ddifrifol iawn.

Roedd adroddiadau bod dynion mewn trafferthion yn y môr ychydig cyn 3pm ddydd Gwener.

Cafodd Gwylwyr y Glannau o Gaergybi eu galw i Draeth Llydan ac roedd y gwasanaeth ambiwlans a hofrennydd yr awyrlu wedi eu galw.

Mae Crwner Gogledd Orllewin Cymru Coroner Dewi Pritchard-Jones wedi dechrau ymchwiliad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol