Llifogydd: Tai wedi eu heffeithio
- Cyhoeddwyd

Mae llifogydd wedi effeithio ar gartrefi yn dilyn glaw trwm ledled Cymru.
Cafodd y Gwasanaethau Tân eu galw er mwyn delio gyda effeithiau'r glaw yng Ngwynedd a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae rhybuddion pellach o lifogydd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gyda Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi rhybuddion 'llifogydd byddwch yn barod' ar gyfer nifer o afonydd.
Daeth rhybudd tebyg oddi wrth y Swyddfa Dywydd, rhybudd melyn ar gyfer gyda'r nos, nos Lun.
10 o dai
Cafodd y criwiau eu galw i 10 o dai neu adeiladau yn Aberafan ac i ddau dŷ yng Nghaernarfon a Bangor.
Gorlifodd Afon Conwy ei glannau yn Llanrwst yn Sir Conwy.
Bu yna broblemau ar rai ffyrdd, yn enwedig yn ardaloedd Rhondda a Phen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y ffordd sy'n cysylltu Heol Ewenni a'r A48 ar gau ac roedd amodau'n anodd yng nghyffiniau cylchfan Tredegar ar yr A465, Heol Blaenau'r Cymoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru fod rhannau o'r rhwydwaith carthffosiaeth wedi eu gorlwytho ar adegau.
"Fe wnaeth y glaw trwm dros gyfnod o 24 awr roi straen aruthrol ar rannau o'r system garthffosiaeth ac mae yna dimau o weithwyr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau effaith y glaw ar ein rhwydwaith."
Mae yna rybudd llifogydd ar gyfer y canlynol:
- Afon Erch yn Abererch, Gwynedd;
- Gogledd Gwynedd, afonydd rhwng Abergwyngregyn ac Aberdaron;
- Afonydd Llynfi ac Ogwr yn sir Pen-y-bont ar Ogwr;
- Ardaloedd o gwmpas afonydd ar Ynys Môn;
- Ardaloedd o gwmpas Afon Conwy rhwng Dolwyddelan a Chonwy;
- Afonydd Mawddach ac Wnion rhwng Y Friog, Ganllwyd a Rhydymain;
- Afonydd Glaslyn a Dwyryd yng Ngwynedd rhwng Dyffryn Ardudwy a Nant Gwynant.
- Yr Afon Taf ac Afon Elái yn ardal Caerdydd