Papur ar-lein yn cynnig 'gogwydd gwahanol' ar y Brifwyl
- Cyhoeddwyd

Mae llais ifanc newydd sbon ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
'Papur newydd' o'r enw Llais y Maes sy'n cael ei gyhoeddi ar y we gan fyfyrwyr newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd.
Fore Llun yr oedd Angharad Hywel o Bwllheli, Isabel Bradshaw-Hughes o Ruthun, Lily Price Jenkins o Gaerdydd a Jennifer Ubah o Lundain, yn paratoi eu rhifyn cyntaf o'r papur gyda'r bwriad o ychwanegu ato holl gynnwrf a miri'r maes yn ystod yr wythnos.
"Be rydan ni'n trio'i wneud ydi rhoi darlun gwahanol o'r Steddfod.
"Yn hytrach na chanolbwyntio ar y cystadlu a'r pethau traddodiadol, yr ydym yn cymryd golwg wahanol ar yr hyn sy'n digwydd ar y maes a chanolbwyntio mwy ar yr ymwelwyr ac ar y stondinwyr ac ar ddigwyddiadau sydd ddim yn cael cymaint o sylw yn y wasg yn gyffredinol," meddai Angharad.
"Trio rhoi darlun mwy cyflawn."
'Cwbl ddieithr'
Nid yn unig dyw'r myfyrwyr ddim wedi gwneud y math yma o beth o'r blaen ond y mae'r Eisteddfod yn gwbl ddieithr i un ohonynt, Jennifer, a dim ond ychydig wybodaeth sydd gan Lily am yr Ŵyl.
Yn rhannu bwrdd ymhlith newyddiadurwyr profiadol mewn cornel o stafell y Wasg, mae'r pedair yn trin yr ymarferiad fel gwaith go iawn gyda chyfarfodydd golygyddol yn cael eu cynnal i benderfynu pa straeon fydd pob un yn eu dilyn a'r rheiny wedyn yn cael eu golygu cyn eu hychwanegu at y wefan.
Yn ymarferiad mewn newyddiaduraeth gymunedol, mae'r Eisteddfod ei hun yn cefnogi'r arbrawf yn llwyr ac yn darparu lle i aros i'r myfyrwyr a'r Coleg yn talu eu cyflog.
"Mae'n arbrawf tair blynedd i gyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd," meddai Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod.
'Gogwydd gwahanol'
Ychwanegodd i'r Eisteddfod gael ei dewis fel lleoliad oherwydd ei bod yn cynnig cynfas mor eang o brofiadau newyddiadurol i'r myfyrwyr gyda gwleidyddion, artistiaid ac yn y blaen yn ymweld â'r Maes a hynny'n groesdoriad cyflawn o'r bywyd Cymreig yn gryno o fewn un lle.
"Yr ydan ni'n gweld hwn yn gyfle arbennig i roi profiad gwaith i bobl," meddai Gwenllian Carr, "a chewch chi 'nunlle gwell na'r Eisteddfod ar gyfer hyn gan fod popeth yma. Mae'n lle arbennig o dda ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dysgu am newyddiaduraeth."
Dywedodd hefyd ei bod yn gobeithio y bydd y newyddiadurwyr ifanc hyn yn cynnig gogwydd gwahanol i'r arferol o'r Eisteddfod.
"Yr oeddem yn gobeithio y byddai'r ffaith nad yw dwy ohonyn nhw'n siarad Cymraeg ac un ddim yn dod o Gymru yn rhoi gogwydd hollol wahanol ac, ar yr un pryd, yn gallu cynnig profiad gwaith hefyd," meddai.
Dywedodd ei bod yn fwriad ehangu a datblygu'r profiad dros y tair blynedd gyda myfyrwyr eraill i gynnwys papurau bro.
Mae dwy o staff y coleg yno i gynghori'r myfyrwyr a thrafod unrhyw broblemau all godi yn ystod yr wythnos.
Mae pwyslais - fel gyda phob newyddiaduraeth - ar gyhoeddi straeon yn fuan ac yn sydyn a sicrhau y bydd y wefan yn fywiog ac yn newid yn barhaus.
Ar ei bore cyntaf, disgrifiodd Jennifer y profiad hollol ddieithr hwn fel un hynod werthfawr.
"Yr ydw i'n dal i geisio dygymod â'r holl beth. Y dysgwyr Cymraeg a phopeth sy'n digwydd. Y mae'n safle hyfryd gyda'r gwyrddni o gwmpas, mae'n lle hyfryd iawn. Y mae'r cyfan yn brofiad da i'w gael," meddai.
I ymweld â Llais y Maes a darllen mwy amdano cliciwch yma.