Lluniau dydd Llun / Monday's pictures
- Cyhoeddwyd

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych a Mentrau Iaith Cymru yn cynnig prawf llygaid arbennig gyda'r 'sbectol iaith' gan yr artist Eleri Jones i weld sut mae’r cyhoedd yn gweld y Gymraeg.

Roedd yr ymwelwyr i'r Maes wedi paratoi ar gyfer y tywydd gwlyb
Carolyn Thomas o Ddinbych yn gwylio’r byd yn mynd heibio o Babell y Noddwyr
Gareth Bonello yn perfformio ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r Llyfrgell yn arddangos adnodd newydd sy'n caniatáu i bobl chwilio drwy filoedd o dudalennau o hen bapurau newydd ar-lein.
Cwestiwn da - 'I ble'r aeth yr haul?'
Yr Archdderwydd newydd, Christine James, a'r cyn Archdderwydd T. James Jones
Roedd cryn dipyn o gynnwrf ar faes yr Eisteddfod heddiw wrth i aelodau newydd gael eu hurddo i'r Orsedd.
Caryl Parry Jones yn canu Cân y Babis ym mhabell Radio Cymru
Ifor ap Glyn, enillydd y Goron, gyda'r Archdderwydd Christine James
Hanna Hopwood yn holi Iona a Glyn, rhieni Ifor ap Glyn, ar ôl iddo ennill y Goron