Carwyn Jones: 'Na' i Eisteddfod un safle
- Cyhoeddwyd

Bu Carwyn Jones ar faes yr Eisteddfod dydd Llun
Mae'r prif weinidog ac ysgrifennydd Cymru wedi dweud wrth Radio Cymru y dylai'r Eisteddfod Genedlaethol barhau i fod yn ddigwyddiad teithiol.
Dywedodd Carwyn Jones a David Jones eu bod yn credu mai cynnal yr ŵyl mewn ardaloedd gwahanol o Gymru bob blwyddyn yw'r trefniant gorau.
Mae'r tasglu gafodd ei sefydlu gan Leighton Andrews, y cyn-weinidog oedd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, wrthi'n ystyried a ddylai'r eisteddfod gael ei chynnal ar yr un safle bob blwyddyn neu ar nifer o safleoedd gwahanol.
Bydd y tasglu, sy'n cael ei gadeirio gan Roy Noble, yn cyflwyno eu hargymhellion yn yr hydref.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol