Carbon monocsid: Dyn yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd

Aed â dyn 83 oed i'r ysbyty ar ôl i nwy garbon monocsid gael ei ddarganfod yn ei dŷ yn Nhreharris, ger Merthyr Tudful.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Pritchard tua 9.15am ar ôl i system fonitro gofnodi carbon monocisd.

Fe wnaeth diffoddwyr archwilio tai cyfagos, ond doedd dim carbon monocsid yn bresennol.

Aethpwyd â'r dyn i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful