Dydd Llun llwyddiannus er y glaw
- Cyhoeddwyd

Roedd 15,754 o bobl wedi ymweld ag Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau ddydd Llun.
Mae hynny ychydig yn llai na'r llynedd, pan ymwelodd 16,121 o bobl â'r Maes ym Mro Morgannwg ar yr un diwrnod.
Ond yng nghanol y tywydd gwlyb, roedd 'na deilyngdod ym mhrif seremoni'r dydd.
Ifor ap Glyn o Gaernarfon a enillodd Coron yr Eisteddfod am gasgliad o gerddi yn ymwneud â chanlyniadau Cyfrifiad 2011.
Wrth y llyw yn ei seremoni gynta' ar lwyfan y Pafiliwn roedd Christine James - Archdderwydd benywaidd cynta' Gorsedd y Beirdd, a'r cynta' o deulu di-Gymraeg.
Wrth agor Cylch yr Orsedd fore Llun, galwodd y Prifardd Christine ar Gymry ifanc i ddilyn esiampl eraill, a dod yn ôl i Gymru gyda'u dysg a'u doniau er mwyn "gwasanaethu a chyfoethogi'n cenedl".
Dywedodd hefyd fod angen "manteisio ar dechnolegau newydd i hybu'r iaith".
Y prif ddigwyddiadau yn y Pafiliwn ddydd Mawrth fydd seremonïau cyflwyno Medal Syr T.H. Parry Williams a Gwobr Goffa Daniel Owen.
Mae disgwyl i'r tywydd wella dros nos, gan ddod â diwrnod brafiach ddydd Mawrth.
Dywedodd Derek Brockway, Cyflwynydd Tywydd BBC Cymru ar Faes yr Eisteddfod:
"Os ydych yn dod i'r Eisteddfod ddydd Mawrth mae'n mynd i fod yn llawer sychach. Fe fydd hi'n teimlo'n gynhesach a bydd yna rywfaint o heulwen i'ch croesawu."